Bydd Age Cymru yn cynnig gwasanaeth sgwrs sut hwyl dros y ffôn ar gyfer pobl sydd dros 70 oed yng Nghymru ac yn byw ar eu pen eu hunain o 23 Mawrth 2020. Y gobaith yw y bydd y fenter yn helpu i dawelu meddwl pobl hŷn, ateb ymholiadau sylfaenol a chysylltu pobl â gwasanaethau a chefnogaeth leol yn ystod yr achos Coronafeirws.

Ar ddechrau'r wythnos, y cyngor oedd bod pawb yn dechrau hunan-ynysu gymaint ag y bod modd er mwyn ein helpu i geisio diogelu ein hunain rhag y feirws. Mae hyn yn benodol bwysig ar gyfer pobl sydd dros 70, a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol oherwydd eu bod mewn risg uwch o ddatblygu symptomau mwy difrifol os ydynt yn dal y feirws. Yn ystod y dyddiau nesaf, bydd gofyn i'r unigolion sydd mewn risg uwch hunan-ynysu am 12 wythnos.

Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru: "Mae'n gyfnod a all fod yn anodd iawn i nifer o bobl hŷn, yn enwedig y rheiny sy'n byw ar eu pen eu hunain, neu nad oes ganddynt unrhyw un i rannu eu pryderon gyda nhw. Efallai bod eraill ond eisiau sgwrs am beth oedd ar y teledu'r noson gynt. Y gobaith yw y bydd y fenter hon yn helpu pobl hŷn i ymdopi â rhai o'r heriau sy'n codi o achos Coronafeirws."

Gall unrhyw un sydd dros 70 oed gofrestru gydag Age Cymru, am ddim, a derbyn galwad ffôn rheolaidd gan yr elusen, un ai'n Gymraeg neu'n Saesneg. Yr unig beth sydd angen ichi ei wneud, yw ffonio Rhif Cyngor Age Cymru ar 08000 223 444 neu e-bostio enquiries@agecymru.org.uk.