Mae Rhaglen Frechu Covid-19 wedi bod yn mynd rhagddo ers 08 Rhagfyr 2020.

Mae brechlynnau'n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau ac mae'r brechlyn COVID yn cynnig gobaith i'n cymuned.

Trwy dderbyn eich brechlyn, byddwch yn parhau i chwarae eich rhan fach ond anhygoel o bwysig wrth amddiffyn eich hun, y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a'n GIG lleol.

Mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf am y brechlyn, cyngor i gleifion a'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Darperir diweddariad cynnydd wythnosol gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Cyngor ar ddosau y brechlyn

Dyma neges fideo ynglŷn â chyngor ar ddosau gan Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Brechlyn a Chlefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gwyliwch y fideo ar dudalen Vimeo Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn Saesneg yn unig).

Brechlyn atgyfnerthu

Gwybodaeth am frechiadau atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer grwpiau blaenoriaeth

Sut y bydd pobl 18 oed a throsodd yn cael cynnig dos atgyfnerthu COVID-19