Beth yw Credyd Cynhwysol?

Bydd Credyd Cynhwysol yn eich cynorthwyo i fod yn fwy annibynnol ac yn symleiddio'r system budd-daliadau trwy ddod ag ystod o fudd-daliadau oed gweithio ynghyd mewn un taliad.

Bydd y Credyd Cynhwysol yn disodli'r canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai

Dydy'r Credyd Cynhwysol ddim yn cynnwys y budd-daliadau lles canlynol, a bydd yn rhaid hawlio'r rhain ar wahân:

  • Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Lwfans Byw i'r Anabl / Taliadau Annibyniaeth Personol
  • Budd-dal Plant
  • Pensiynau

Gellir cael gwybodaeth fanwl ar Credyd Cynhwysol – GOV.UK

Pwy sy'n gymwys i'w hawlio?

I hawlio Credyd Cynhwysol mae'n rhaid i chi:

  • fyw yn eich cyfeiriad arferol mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol ar gael
  • beidio â bod yn ddigartref, mewn llety â chymorth neu lety dros dro, na bod yn berchennog tŷ
  • fod yn ddinesydd Prydeinig gyda rhif Yswiriant Gwladol
  • fod rhwng 18 a 60 a chwe mis oed
  • fod yn ffit i weithio
  • heb wneud cais am nodyn ffitrwydd i weithio
  • ystyried eich hun yn ffit i weithio
  • beidio â bod yn feichiog nac wedi rhoi genedigaeth o fewn y 15 wythnos diwethaf
  • beidio â bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Cymhorthdal Incwm (IS), Budd-dal Analluogrwydd (IB), Lwfans Anabledd Difrifol (SDA), Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) neu Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • beidio â bod yn aros am benderfyniad ar gais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Cymhorthdal Incwm (IS), Budd-dal Tai (HB), Credyd Treth Plant (CTC) neu Gredyd Treth Gwaith (WTC)
  • beidio â bod yn apelio yn erbyn penderfyniad o beidio bod â hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Gymhorthdal Incwm (IS)
  • beidio â bod yn aros am ganlyniad cais i adolygu penderfyniad o beidio bod â hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Cymhorthdal Incwm (IS) neu Fudd-dal Tai (HB)
  • beidio â bod ag unrhyw gyfrifoldebau gofalu (megis ar gyfer person anabl)
  • beidio â bod yn gyfrifol am berson ifanc o dan 20 oed sydd mewn addysg heb fod yn addysg uwch neu hyfforddiant
  • beidio â bod yn hunangyflogedig, yn gyfarwyddwr cwmni neu'n rhan o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • beidio â bod mewn addysg neu ar gwrs hyfforddi o unrhyw fath
  • beidio â bod gyda pherson yn gweithredu ar eich rhan dros eich cais
  • fod ag o leiaf un cyfrif addas y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau dalu eich arian i mewn iddo
  • beidio â bod yn byw yn yr un cartref ag aelod o'r lluoedd rheolaidd neu luoedd wrth gefn sydd i ffwrdd ar ddyletswydd
  • wedi byw yn y DU yn y ddwy flynedd ddiwethaf, a heb fod dramor am fwy na phedair wythnos yn barhaus yn ystod y cyfnod hwnnw
  • beidio â bod angen talu cynhaliaeth plant trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant
  • beidio â bod â chynilion o fwy na £6,000 rhwng y ddau ohonoch
  • beidio â bod yn rhiant maeth cymeradwy (hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw blant maeth ar hyn o bryd)
  • beidio â bod yn disgwyl mabwysiadu plentyn yn y ddeufis nesaf neu (ble y gall ceisiadau teuluol gael eu gwneud) fod wedi mabwysiadu plentyn o fewn y 12 mis diwethaf
  • beidio â bod yn disgwyl derbyn cyflog mynd adref unigol o fwy na £338 yn y mis nesaf
  • beidio â bod yn disgwyl derbyn cyflog mynd adref ar y cyd o fwy na £541 yn y mis nesaf
  • beidio â bod yn disgwyl derbyn unrhyw enillion o hunangyflogaeth yn ystod y mis nesaf

Pryd fydd y Credyd Cynhwysol yn effeithio arnaf i?

Mae'r Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno cam wrth gam a bydd yn effeithio ar bobl wahanol ar adegau gwahanol.

Ar gyfer Ceiswyr Gwaith sengl sy'n byw yng Ngheredigion sy'n gwneud cais newydd, bydd y Credyd Cynhwysol yn eich effeithio o'r 9fed o Dachwedd 2015.

Ar gyfer holl gwsmeriaid eraill gall Credyd Cynhwysol effeithio arnoch mor fuan â Mai 2016 er bydd yr union adeg fyddwch yn cael eich effeithio'n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych eisoes yn hawlio unrhyw rai o'r budd-daliadau a effeithir gan Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n cysylltu â chi'n ddigon buan i ddweud pryd fyddwch yn cael eich effeithio.

Ewch i Credyd Cynhwysol - GOV.UK am ragor o wybodaeth ynghylch pryd fydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch chi.

Sut allaf ei hawlio?

Yn lle hawlio unrhyw rai o'r budd-daliadau a restrwyd ar wahân bydd angen i chi wneud un cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Disgwylir i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Ar gyfartaledd mae'n cymryd tua 30 munud i lenwi cais ar-lein – nid yw'n bosib 'arbed' cais anorffenedig.

Mae rhif ffôn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm, sy'n rhoi cymorth a chyngor ar wneud cais ar-lein neu os ydych yn cael trafferthion tra'ch bod yn gwneud cais. 0345 600 0723 neu 0845 600 0723

Y wefan ar gyfer gwneud cais ar-lein yw:

https://www.gov.uk/apply-universal-credit

Pan fydd eich cais wedi ei gymeradwyo byddwch yn derbyn:

  • Un taliad budd-dal - yn lle'ch taliadau ar wahân presennol
  • Eich taliad unwaith y mis – yn lle bob wythnos neu bythefnos
  • Eich taliad i mewn i gyfrif banc neu undeb credyd

COFIWCH: Os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai byddwch nawr yn derbyn eich tâl fel rhan o daliad budd-dal misol y Credyd Cynhwysol.

Unwaith byddwch yn derbyn eich taliad budd-dal, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rheoli / cyllidebu eich budd-dal am fis cyfan (4 wythnos) tan eich budd-dal nesaf
  • talu eich holl rent i'ch landlord eich hun bob mis

O dan rai amgylchiadau, mae'n bosibl gallwch wneud trefniadau talu amgen ar gyfer Credyd Cynhwysol. Gall hyn olygu bod eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu'n fwy aml nag yn fisol, ei fod yn cael ei rannu rhyngoch chi a'ch partner, neu fod eich rhent yn cael ei dynnu allan o'ch taliad credyd cynhwysol a'i dalu i'ch landlord cyn i chi dderbyn eich budd-dal.

Beth sydd angen i mi ei wneud i fod yn barod ar gyfer Credyd Cynhwysol?

Talu eich rhent

Bydd angen i chi ddysgu sut mae talu eich rhent pan fyddwch yn derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Bydd angen i chi wybod pethau fel pwy yw eich landlord, sut mae talu, faint o rent sydd angen i chi dalu, ac ar ba ddyddiad bob mis mae'n rhaid i chi dalu.

Siaradwch â'ch landlord / cymdeithas tai i ddarganfod mwy am beth sydd angen i chi ei wneud neu os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r tîm Budd-dal Tai am wybodaeth.

Agorwch gyfrif banc neu gyfrif undeb credyd

Bydd angen i chi agor cyfrif banc neu undeb credyd. Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, hyd yn oed os oes gennych hanes credyd gwael. I gael gwybod mwy am agor y cyfrif iawn i chi, ffoniwch neu galwch heibio eich banc, eich cymdeithas adeiladu neu undeb credyd agosaf.

Ymarfer a pharatoi

Gall fod yn anodd sicrhau bod eich arian yn parhau am fis cyfan, yn enwedig os nad ydych chi'n gyfarwydd â gwneud hynny. O dan Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi sicrhau bod eich arian yn parhau am bedair wythnos gyfan tan i chi dderbyn eich taliad budd-dal nesaf. Hefyd, bydd angen i chi sicrhau nad ydych chi'n colli unrhyw daliadau pwysig, fel rhent neu filiau, yn ystod y cyfnod hwn.

Pa mor fuan allaf ddisgwyl taliad o Gredyd Cynhwysol wedi i mi wneud cais?

Gallwch fod yn aros hyd at bum wythnos am eich taliad cyntaf. Gallwch ofyn am flaendaliad sydd ar gael i'r rhai hynny fydd mewn 'angen ariannol' tra'u bod yn disgwyl am eu taliad cyntaf neu os oes newid wedi bod mewn amgylchiadau yn ystod y cyfnod asesu sy'n cynyddu eich dyfarniad.

Yr uchafswm o flaendaliad yw 50% o amcangyfrif o'ch dyfarniad neu gynnydd mewn dyfarniad.

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 21 diwrnod i ddyddiad eich cais neu gychwyn eich asesiad o daliad os ydy'ch amgylchiadau wedi newid.

Efallai byddwch angen cymorth ychwanegol wrth symud tuag at un taliad sengl, misol. Gall Credyd Cynhwysol gael ei dalu'n wahanol. Gelwir hyn yn drefniant talu amgen ac enghreifftiau o hyn yw'r canlynol:

  • Trefnu bod y costau tai yn cael eu talu'n syth at eich landlord
  • Cael eich talu dwywaith y mis yn lle'n fisol

Beth os fydd fy amgylchiadau'n newid?

Os ydy'ch amgylchiadau'n newid mae'n rhaid i chi hysbysu llinell ffôn y Ganolfan Wasanaeth Credyd Cynhwysol ar 0845 6000 723 neu 0345 6000 723.

Os ydych yn derbyn cymorth i dalu eich Treth y Cyngor bydd angen i roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i'r Tîm Budd-daliadau yng Nghyngor Sir Ceredigion.

A allaf barhau i hawlio Taliad Tai yn ôl Disgresiwn?

Os nad ydych bellach yn hawlio'r Budd-dal Tai oherwydd eich bod yn derbyn yr elfen tai trwy'r Credyd Cynhwysol gallwch wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn trwy Gyngor Sir Ceredigion.