Hoffi Bwyd Casau Gwastraff

Mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn ymgyrch y DU o’r Rhaglen Gweithredu ar Wastraff & Adnoddau, sydd yn dangos sut y gall gwneud pethau syml, ymarferol bob dydd leihau gwastraff bwyd a fydd yn y pen draw yn fanteisiol i’n pocedi a’r amgylchedd hefyd. Pe baem ni i gyd yn peidio â gwastraffu bwyd, byddai hyn yn cael yr un effaith â chymryd 1 mewn 4 car oddi ar y ffyrdd yn y Deyrnas Unedig. Mae gan Hoffi Bwyd Casau Gwastraff lawer o ryseitiau blasus i ddefnyddio bwyd dros ben, awgrymiadau defnyddiol ar gyfer storio bwyd er mwyn gwneud iddo barhau yn hirach, ac amcangyrifydd i helpu chi i goginio'r maint cywir o fwyd, a gwybodaeth ynglŷn â beth mae dyddiadau ar labeli yn ei olygu. Mae yma rywbeth i bawb, boed chi'n gogydd brwd, neu os ydych am leihau maint o fwyd yr ydych yn ei daflu i ffwrdd.

Mae modd lawrlwytho app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff er mwyn eich helpu i leihau gwastraff:


Ailgylchwch Nawr

Ailgylchwch Nawr gwefan yw hon wedi ei hanelu tuag at ddarparu cyngor ar ailgylchu. Mae'n rhoi cyngor ar sut i ailgylchu yn y cartref, yn yr ardd (gan gynnwys adran llawn gwybodaeth ar gompostio), yn y swyddfa a'r ysgol.


Gwasanaeth Postio Dewisol

Gwasanaeth Postio Dewisol (MPS) gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn wedi ei gyllido gan y diwydiant postio uniongyrchol. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi deiliaid tai i dynnu eu henwau a'u cyfeiriadau cartref oddi ar restrau a ddefnyddiwyd gan y diwydiant. Cefnogir hyn gan y Post Brenhinol, pob cymdeithas fasnach sydd â rhan uniongyrchol, a chefnogir yn llawn gan Swyddfa Comisiynwyr Gwybodaeth. Gallai cofrestru gyda'r Gwasanaeth Post Dewisol leihau post na ofynnwyd amdano gan 95%.


Ailddefnyddio

Mae yna sawl ffordd o ailddefnyddio hen eitemau neu rai nad ydych eu heisiau. Gellir ailddefnyddio nifer o eitemau yn y cartref. Mae gan Recycling-Guide.org.uk nifer o awgrymiadau ynglŷn â sut i ailddefnyddio eitemau bob dydd.

Gellir rhoi eitemau megis dillad, llyfrau, fideos a DVD i elusen. Edrychwch ar eich cyfeirlyfr teliffon os ydych am gael gwybodaeth am elusennau yng Ngheredigion.

Yn olaf, mae gan Geredigion lawer o fudiadau sy'n hybu ailddefnyddio. Mae siopau fel CRAFT yn Aberystwyth, Anifeiliaid mewn Angen yn Llanbedr Pont Steffan a Phrosiect Cymunedol y Bywyd Newyddyn Aberteifi yn derbyn nwyddau nad yw pobl eu heisiau ac yn eu hail-werthu. Mae sefydliadau eraill megis Freecycle yn caniatáu pobl i ymuno â 'siop ffeirio' rhad ac am ddim ar gyfer eitemau y medir eu hailddefnyddio. Mae hysbysfyrddau mewn archfarchnadoedd a gweithleoedd hefyd yn fan da ar gyfer hysbysebu nwyddau a'u hailddefnyddio neu eu hailwerthu.