Skip to Main Content
Search

Bwthyn Llan-non

Ym mhentref Llanon mae hen adfeilion a adwaenir fel "Y Neuadd" ac mae'n debyg mai adeilad pwysig o'r canoloesoedd yw'r rhain. Gerllaw ceir un o'r bythynod diwethaf yng ngorllewin Cymru sy'n dal i fod â tho gwellt wedi'i wneud a rhaffau gwellt.

Y Bwthyn Llan-non

Rhoddwyd y rhain i Amgueddfa Ceredigion gan Alex Cameron er cof am ei wraig, Elsbeth (nee Lloyd), brodor o Lanon a adawodd ddarn o dir ger y bwthyn fel parc cyhoeddus.

  • Mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn sy'n teithio'n annibynnol.
  • Bydd y bwthyn ar agor i'r cyhoedd dydd Sul, dydd Mawth, dydd Mercher, Dydd Iau a  Dydd Gwener yn ystod mis Awst a Dydd Llun Gwyl Y banc rhwng 2.00 - 4.00. 
  • Mae'r adfeilion, y parc a maes chwarae'r plant ar agor trwy'r amser.
 Map Llanon


Saif pentref Llanon ar yr A487 rhwng Aberaeron ac Aberystwyth.

 Map Llanon

Mae'n enwog oherwydd y cysylltiad a'r Santes Non a Dewi Sant a'r llain o dir amaethyddol da ger y môr, yn enwedig rhwng Afon Clydan ac Afon Peris, lle mae caeau lleiniog canoloesol  yn dal mewn bodolaeth.

Ar yr arfordir mae hen eglwys gyda thwr yn dyddio o'r 13eg ganrif a chorff eglwys o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'r traeth yn garegog gyda pheth tywod ac mae'n wag fel rheol.  Mae'r haenau daearegol ar y clogwyni wedi'u dynodi'n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 Map Llanon

CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS:

Toiledau:    ger y maes parcio a'r eglwys

Maes chwarae i blant, siopau a lleoedd bwyta.

PARCIO

Cynghorir ymwelwyr i barcio ger y cyrtiau tenis o Stryd yr Ysgol (trowch oddi ar y ffordd fawr ger y siop sglodion), cerddwch i gyfeiriad y de ar hyd y ffordd fawr at y bwthyn a'r adfeilion yn Heol Non.

Gwybodaeth Bellach cysylltwch â ni

rhagor ...