Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11/09/2022

 

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 04/10/2022

Adroddiad- Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Siarad Gwrando a Gweithio Gydan Gilydd.pdf 

 

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi – ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’ yn amodol ar gynnwys sicrhau yr ymgysylltir â Chynghorau Cymuned

Mae’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi wedi’i gyhoeddi ar ein wefan

Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi - Cyngor Sir Ceredigion

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae angen i ni siarad â phobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngheredigion am yr hyn a wnawn ni i chi.

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yma yn defnyddio rhai o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio i'r cyngor. Gallai'r rhain fod yn ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau biniau. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gwneud pethau, mae angen i ni sicrhau eich bod yn gwybod am y newidiadau hyn ac nad ydynt yn cael effaith wael arnoch.

Rydym wedi diweddaru ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi; bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn siarad â phawb ac yn y ffordd orau.

Roeddem eisiau gofyn i chi beth rydych chi'n ei feddwl am ein dull o siarad â chi.

Gellir gweld manylion eich ymatebion yn Atodiad B adroddiad Cabinet uchod.