Mae'r ymgynghoriad canlynol bellach wedi cau.

Mae Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion, yn ymgymryd â phrosiect i ymchwilio i effaith pandemig Covid-19 ar drigolion a busnesau Ceredigion.

Nod y prosiect yw ymchwilio i’r effeithiau amrywiol ar gartrefi a busnesau’r Sir, ac i gasglu tystiolaeth sy’n cysylltu bregusrwydd, tlodi a dynameg poblogaeth gyda’r pandemig yn benodol. Defnyddir y prosiect i helpu i asesu’r effeithiau ac i lunio polisïau o’r tymor byr i’r hirdymor yng Ngheredigion, er mwyn cynorthwyo’r broses adfer.

Bwriad yr arolwg hwn yw cael barn a phrofiadau busnesau a thrigolion. Croesewir barn pawb ac amcangyfrifir y bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i'w gwblhau.

Arolwg Cartrefi

Arolwg Busnesau

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ar y 30 o Fehefin 2021.

Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil a Pherfformiad
Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

performanceresearch@ceredigion.gov.uk

Diolch ichi am eich amser.