Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31/01/2023.

 

Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28 (drafft) gan y Cyngor llawn ar 20/04/2023.

Argymhelliadau: I'r Cyngor gymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028

Rhesymau dros y penderfyniad: Fel Aelod Statudol o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, mae angen i'r Cyngor gymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion cyn y gall y BGC roi cytundeb terfynol i gyhoeddi'r cynllun.

Cymeradwyodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion fersiwn derfynol y Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer 2023-28 ar 24 Ebrill 2023.

Am fwy o wybodaeth am Asesiad o Lesiant Lleol a chynllun terfynol Llesiant Lleol olaf Ceredigion 2023-28 ewch i dudalen we Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion.

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Bellach, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wedi ysgrifennu'r Cynllun Llesiant Lleol Drafft 2023-28. Dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol yn rheolaidd. Mae'r Cynllun drafft yn amlinellu'r pethau y bydd BGC Ceredigion yn cydweithio arnynt dros y pum mlynedd nesaf:

  • Ein hamcanion llesiant
  • Camau i gyflawni ein hamcanion
  • Sut rydym ni am i Geredigion edrych ymhen 10 mlynedd

Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud hyn yn gywir, ac rydym am i chi fwydo i mewn eich profiadau a’ch blaenoriaethau er mwyn cyflawni hyn. Mae'r Cynllun Llesiant drafft hwn a'r Amcanion Llesiant arfaethedig ynddo wedi cael eu llywio gan yr Asesiad Llesiant cynhwysfawr a gynhaliwyd yn ystod 2021-2022, yn ogystal â gwrando ar eich adborth am ein Hamcanion Llesiant yn ystod yr Haf.

Sut i gymryd rhan

Byddem yn croesawu eich sylwadau am y Cynllun Llesiant Lleol Drafft cyn cyhoeddi'r fersiwn terfynol ohono. Gallwch ymateb ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen ymateb a'i dychwelyd mewn neges e-bost neu ei phostio i'r cyfeiriad a nodir ar ddiwedd y ffurflen.

Mae fersiwn Hawdd ei Ddarllen a fersiwn Pobl Iau o’r Cynllun ar gael i’w lawrlwytho. Os bydd angen i chi gysylltu â ni neu os bydd angen i chi gael gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, ffoniwch ni ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk. Bydd copïau papur a fersiynau mewn fformatau eraill hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol.

Trwy gwblhau'r arolwg byr hwn, byddwch yn ein helpu i ddeall sut i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal: o dyfu busnesau newydd i warchod yr amgylchedd, ac o fynd i'r afael â thlodi ac unigrwydd i adeiladu ymdeimlad o gymuned a balchder ar draws y sir.

A hoffech gael gwybod mwy?