Mae olynydd i'r “Strategaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden 2014-2020” yn cael ei ddatblygu, gyda chyfle i chi ddweud eich dweud.

Bydd eich adborth yn hanfodol i gefnogi Cyngor Sir Ceredigion i greu cynllun datblygu newydd ac yn helpu i bennu ei flaenoriaethau rhwng 2022 a 2027. Bydd hyn yn caniatáu i drigolion Ceredigion gael mynediad at gyfleoedd o safon i ddod yn fwy actif a fydd o fudd i'w hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol.

Bydd y cynllun newydd yn nodi sut y gall dod yn sir fwy egnïol gyfrannu at Strategaethau Corfforaethol y Cyngor a'r Cynllun Lles Lleol.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd “Mae iechyd a lles corfforol a meddyliol trigolion Ceredigion yn bwysig. Dyma gyfle i'r trigolion ddweud eu dweud ar sut maen nhw eisiau derbyn chwaraeon a gweithgareddau corfforol am y blynyddoedd i ddod. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae pandemig y coronafeirws wedi'i chael ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y sir ac mae hwn yn gyfle i roi gwybod i ni sut y gallwn ailadeiladu’n gryfach”

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion ei holl breswylwyr, hoffai'r Cyngor i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl gwblhau'r arolwg.

Llenwch yr arolwg islaw:

Arolwg Cynllun Datblygu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael yr arolwg mewn fformat arall, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

Mae’r arolwg ar agor tan 17 Hydref 2021.