Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben  ar 23/02/2024

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 19/03/2024.

Adolygiad Tai sy’n rhan o Gynllun Ychwanegol Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yng Ngheredigion

PENDERFYNIAD:

  1. Cymeradwyo:

    OPSIWN 1: Ail-ddynodi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol i gynnwys:

  1. Yr eiddo hynny lle mae 3 neu fwy o bobl yn byw ynddynt, gan ffurfio tair aelwyd unigol neu fwy yn y wardiau penodedig canlynol yn unig: Aberystwyth - Gogledd, Canolog, Penparcau, Rheidol a Bronglais; Llanbadarn Fawr – Padarn a Sulien, Y Faenor

A

  1. Trwyddedu pob eiddo sy'n bodloni'r meini prawf canlynol ar sail sirol gyfan:
  • yr eiddo hynny lle mae 5 person neu fwy yn byw ynddynt, gan ffurfio dwy aelwyd unigol neu fwy, waeth beth yw nifer y lloriau, AC
  • Tai Amlfeddiannaeth Adran 257 (Deddf Tai 2004) a grëwyd drwy newid adeiladau yn fflatiau lle nad oedd y trawsnewidiadau yn bodloni safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 ac nad ydynt wedi cael eu gwella i'r safonau perthnasol wedi hynny.
  1. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Tai Amlfeddiannaeth yn dai caiff eu rhannu gan fwy nag un aelwyd. Er enghraifft, tai myfyrwyr sy’n cael eu rhannu a thai wedi eu trosi i fflatiau/fflatiau gwely.

Mae rhaid i Gyngor Sir Ceredigion sicrhau bod rhai o’r tai amlfeddiannaeth yn addas i'r diben. Os yw dŷ amlfeddiannaeth yn 3 llawr neu fwy o uchder a bod ganddo 5 neu fwy o bobl yn byw ynddynt, mae'n rhaid iddynt gael trwydded. Nodir hyn yn Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004. Os nad oes gan dŷ amlfeddiannaeth gyfleusterau addas neu os yw'n cael ei reoli'n wael, gall y Cyngor wrthod rhoi trwydded.

Gall y Cyngor benderfynu ar y mathau o dai amlfeddiannaeth y byddwn yn eu rheoleiddio o dan ein cynllun trwyddedu ychwanegol.

Mae ein cynllun trwyddedu ychwanegol cyfredol yn cynnwys Tai Amlfeddiannaeth sy'n gartref i 5 neu fwy o bobl, mewn 2 neu fwy o aelwydydd ar wahân. Mae hefyd yn cynnwys Tai Amlfeddiannaeth sy'n gartref i 3 neu fwy o bobl, mewn 3 neu fwy o aelwydydd ar wahân mewn rhai ardaloedd yn Aberystwyth. Mae mwy o wybodaeth yn y ddogfen, Adolygiad Trwyddedu Ychwanegol 2023.

Daw'r cynllun trwyddedu ychwanegol presennol i ben ym mis Ebrill 2024. Mae angen i'r Cyngor benderfynu a ddylid ei gadw fel y mae neu ei newid.

Sut i gymryd rhan

Llenwch ein harolwg ar-lein i helpu i lywio ein penderfyniad.

Holiadur Trigolion

Holiadur Trigolion - Copi Papur

Bydd ardaloedd yn Aberystwyth sydd â nifer uchel o dai amlfeddiannaeth yn derbyn copi papur o'r wybodaeth hon. Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'ch Canolfan Hamdden neu Lyfrgell leol.

Bydd yr arolwg yn dweud wrthym a yw ein cynlluniau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn gweithio'n dda. Bydd canlyniadau'r arolwg hefyd yn cyfrannu at adroddiad i Gabinet Ceredigion yng Ngwanwyn 2024. Bydd gan landlordiaid 3 mis o rybudd o unrhyw newidiadau i'r cynllun trwyddedu ychwanegol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy e-bost: clic@ceredigion.gov.uk.