Amcanion Llesiant a Gwella

Mae’r Amcanion Llesiant a Gwella, sydd bellach wedi’u cynnwys yn rhan o’n Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2017-2022, yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Ceredigion. Maent yn gynnyrch proses ymgynghori ac ymgysylltu barhaus ac eang, ynghyd â hunanwerthusiad y Cyngor o’i berfformiad.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol gan gynnwys adolygiad o’i Amcanion Llesiant a Gwella i sicrhau eu bod yn parhau’n addas at y diben.