Strategaeth Gorfforaethol 2017-2022

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o'i hanes blaenorol o ddarparu gwasanaethau o safon uchel, ddiogel, effeithlon ac effeithiol i drigolion Ceredigion. Mae sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer y cyfnod gweinyddu nesaf rhwng 2017 a 2022 yn hanfodol.

Mae'r Cyngor yn gwybod beth yw'r meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gwella trwy weithredu prosesau hunanwerthuso parhaus, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ymgynghori ffurfiol ac anffurfiol. Caiff ein dealltwriaeth ei llywio gan bolisïau a blaenoriaethau cenedlaethol hefyd.

Mae'r Asesiad Llesiant Lleol hefyd wedi dylanwadu ar y Strategaeth Gorfforaethol hon a datblygiad y pedwar Blaenoriaeth y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt
dros y 5 mlynedd nesaf:

Bydd y Blaenoriaethau yn galluogi gwasanaethau i gael eu cyflawni a fydd yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion
Ceredigion.

Beth yw'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt?

Mae'r economi leol wedi bod dan bwysau oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys y toriadau o £34m a orfodwyd ar yr awdurdod trwy'r mesurau cyni. Mae'r toriadau hyn wedi, a byddant yn parhau i arwain at golli llawer o swyddi yn y Cyngor.  At hynny, mae'r lleihad yn ein pŵer gwario cyffredinol wedi cael effaith negyddol ar fusnesau, cyfraddau cyflogaeth a lefelau incwm blynyddol ar gyfer cartrefi yn y sir. Yn wahanol i nifer o siroedd eraill yng Nghymru, mae ein sector cyhoeddus yn cyflogi cyfran fawr o'n gweithlu. O ganlyniad, mae'r toriadau hyn wedi cael effaith niweidiol anghymesur ar ein heconomi leol.

Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu risg ychwanegol o leihad yn y ffrydiau cyllid grant sy'n rhoi cyfanswm o £57miliwn pellach y flwyddyn i'r sector preifat a chyhoeddus. Y diwydiant amaeth a thwristiaeth sy'n elwa fwyaf o'r ffrydiau cyllid hyn, a heb y lefel hon o gymorth bydd busnesau bach Ceredigion o dan bwysau ariannol mawr dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r rhwydwaith gwybodaeth, cyfathrebu a thrafnidiaeth yn parhau heb ei ddatblygu'n ddigonol i helpu pobl i fynd a dod yn rhwydd yng Ngheredigion.  Mae angen buddsoddiad sylweddol pellach yn y rhwydweithiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i wella mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn er mwyn i fusnesau allu cystadlu a ffynnu ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.  Mae angen buddsoddiad pellach yn y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd hefyd er mwyn cael llwybrau mynediad a gadael clir ar gyfer mewnforio ac allforio cynnyrch ac adnoddau lleol.

Beth ydym ni am ei gyflawni/wella?

Ein bwriad yw datblygu'r cysyniad o Dyfu Canolbarth Cymru er mwyn i'r ardal gael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig fel un sydd angen Bargen Twf yn debyg i'r Fargen Prifddinas-Rhanbarth.  Rhagwelir y byddai'n sicrhau mewnfuddsoddiad sylweddol o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.  Yn unol â hynny, mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru wedi nodi meysydd twf penodol ar gyfer economi'r rhanbarth ac wedi comisiynu astudiaeth i nodi a chwmpasu buddsoddiadau penodol i wireddu'r meysydd twf hyn. O ran bod yn benodol berthnasol i Geredigion, bydd y buddsoddiadau hyn yn cynnwys ffocysu ar y canlynol:

  • Moderneiddio safleoedd busnes, canolfannau a chanol ein trefi ar gyfer gwneud defnydd ohonynt yn yr 21ain ganrif, gan gynnwys cysylltedd a rheoli ynni, yn ogystal â darpariaeth gyfyngedig o safleoedd newydd a sicrhau bod tai ar gael
  • Hwyluso a chefnogi twf mewn sectorau economaidd gwerth uchel lle mae'r Sir yn arwain Cymru, gan gynnwys blaenoriaethau a nodwyd yn y DU mewn bio-economi ac Amaeth-dechnoleg ac asedau unigryw'r Sir i gefnogi arloesedd a datblygiad yn y sector amddiffyn a diwydiannau cysylltiedig.

Byddwn yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu pwrpasol i feithrin gweithlu aml-fedrus sy'n barod ac ar gael i ateb gofynion busnesau yng Ngheredigion nawr ac yn y dyfodol.
Caiff trefniadau caffael eu hadolygu a chaiff fframweithiau caffael lleol mewnol eu defnyddio i gefnogi busnesau lleol lle bynnag y bo'n bosibl. Os yw'n briodol, caiff prosiectau cyfalaf mawr eu rhannu yn gamau cyflenwi, gan felly rhoi cyfle i fwy o gwmnïau lleol gyflwyno tendrau.
Bydd rhaglen gyfalaf y Cyngor yn canolbwyntio ar wella seilweithiau.  Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr ac asiantaethau i hybu rhaglenni gwella ar gyfer y rhwydweithiau ffyrdd, rheilffyrdd a chyfathrebu.

Y canlyniadau a geisir

  • Bydd Ceredigion yn awdurdod lleol bywiog gyda gweithlu hyblyg ac aml-fedrus. 
  • Bydd Ceredigion yn dod yn fwyfwy yn ardal economaidd fywiog lwyddiannus, gyda gweithlu dwyieithog medrus, a mwy o gyfleoedd cyflogaeth o safon uchel.
  • Mwy o lewyrch personol yn sgil enillion cyflogaeth.
  • Perthynas waith agos rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.
  • Llwybrau cyflogaeth uniongyrchol rhwng sefydliadau Addysg Uwch a'r Cyngor.
  • Bydd gan Geredigion yr isadeiledd i gefnogi economi sy’n tyfu

Sut byddwn yn gwybod i ni wneud gwahaniaeth?

  • Nifer gynyddol o weithwyr Cyngor Sir Ceredigion gyda gallu ar draws set o sgiliau generig
  • Mwy o gyfleoedd cyflogaeth, swyddi a gweithwyr a mwy o swyddi â lefelau uwch o sgiliau ledled y sir gyda Enillion cyfartalog uwch yn sgil cyflogaeth
  • Byddai fforymau Busnes a Diwydiant wedi cael eu creu i hyrwyddo gwaith partneriaethau ar y cyd rhwng sectorau cyhoeddus a phreifat Ceredigion.
  • Bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn cael ei gydnabod fel y cyfrwng i sicrhau buddsoddiad cenedlaethol a rhyngwladol i gefnogi diwydiannau'r sir, gan gynnwys Amaethyddiaeth a Thwristiaeth.

Bydd gwelliant o ran y mynediad digidol ac ymarferol sydd ei angen ar gyfer twf economaidd

Beth yw'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt?

Mae'r cyfleoedd gwaith yn lleihau'n sylweddol yng Ngheredigion oherwydd y mesurau cyni a osodwyd ar lywodraeth leol yn ogystal â'r risgiau cynyddol a ddaw yn sgîl colli cyllid grant o'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.   Mae lefelau diweithdra yn 3.8% ar hyn o bryd. Mae cyfran uwch (34.2%) o'r boblogaeth yn anweithgar yn economaidd, ond mae mwy na hanner o'r rhain yn fyfyrwyr, ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn chwilio am waith.


System addysg Ceredigion yw'r un mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ond mae problemau'r economi leol wedi arwain at nifer fawr o'n hoedolion iau yn gadael y sir i gael hyd i waith yn ardaloedd mwy trefol Cymru. Yn ystod y degawd diwethaf, yn ôl y cyfrifiad bu gostyngiad o 10% ym mhoblogaeth plant Ceredigion, ystadegyn sydd wedi cael effaith ddifrifol ar nifer y disgyblion sy'n cael addysg yn ein hysgolion.
Mae Ceredigion yn economi incwm isel gydag incwm y cartref sydd ymysg yr isaf yng Nghymru, er gwaetha'r lefelau cymwysterau gweddol uchel yn y gweithlu. Mae tlodi mewn gwaith yn arwyddocaol ac yn effeithio ar gyfran uwch o ddinasyddion yn ein sir ni nag yn ardaloedd difreintiedig cydnabyddedig y Cymoedd a Dwyrain Cymru.

Beth ydym ni am ei gyflawni/wella?

Bydd ein strategaethau yn sicrhau bod rhaglenni hyfforddi priodol ar gael sy'n cynnig modd i ddysgwyr ateb anghenion cyflogaeth busnesau yng Ngheredigion nawr ac yn y dyfodol.  Bydd dysgwyr ôl-16 a dysgwyr sy'n oedolion yn ennill y setiau sgiliau y mae eu hangen arnynt er mwyn bod yn weithwyr hyblyg, dwyieithog a gallu addasu i ofynion unrhyw ddarpar gyflogwr.

Caiff Ceredigion ei hailfrandio a'i marchnata fel y lleoliad o ddewis i sefydlu busnesau yn y dyfodol.  Bydd y Cyngor yn ymgysylltu â busnesau mawr sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau amaethyddol a bwyd yn ogystal â thwristiaeth i hyrwyddo gallu unigryw y gweithlu lleol i sicrhau canlyniadau ac allbynnau i'r safonau uchaf.  Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ceisio cryfhau'r clystyrau o fusnesau yn y sectorau bio-economaidd, amaeth-dechnoleg ac iechyd anifeiliaid sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, Canolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru a busnesau eraill ledled Ceredigion.

Bydd y Cyngor yn ystyried ffyrdd creadigol i gynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth trwy bartneriaethau â busnesau lleol, cymunedau a diwydiant.  Rhagwelwn gynnydd yng nghyfraddau cyflogaeth a mewnfuddsoddi, ac yn y pen draw Ceredigion, fel endid sengl, fydd y lleoliad o ddewis ar gyfer addysg, cyflogaeth a ffordd o fyw ffyniannus ac iach.

Mae'r Cyngor yn bryderus am lefelau incwm isel yn y sir a thrwy ymyraethau wedi'u targedu bydd yn ceisio helpu pobl i reoli effaith barhaus mesurau diwygio lles, manteisio i'r eithaf ar yr hawl i gael budd-daliadau, helpu pobl i reoli eu hymrwymiadau ariannol, lleihau'r risg o dlodi i deuluoedd, plant a phobl ifanc, a chadw effaith y cynnydd yng nghostau tanwydd i'r lleiaf posibl.

Y canlyniadau a geisir

  • Bydd gan Geredigion broffil cynaliadwy o ran oedran poblogaeth.
  • Bydd gan ddinasyddion Ceredigion fwy o gyfleoedd a byddant yn cael eu hysbrydoli i ddatblygu sgiliau ymarferol, deallusol a chymdeithasol a fydd yn arwain at fywydau gweithgar ac iach.
  • Bydd dinasyddion Ceredigion yn barod i wireddu eu potensial ym mywyd economaidd a chymdeithasol y Sir.
  • Bydd Ceredigion yn parhau i fod yn gartref bywiog ar gyfer yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.
  • Bydd gan bob dinesydd yng Ngheredigion fynediad at ystod o raglenni ac ymyriadau sy'n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer pob sector yn ein cymunedau, gan dargedu'r rhai sydd fwyaf at risg.

Sut byddwn yn gwybod i ni wneud gwahaniaeth?

  • Bydd patrymau poblogaeth wedi newid gyda lleihad mewn allfudo, yn enwedig o ran pobl ifanc (ac eithrio rôl ymfudo sy'n gysylltiedig ag Addysg Uwch), a newid yn y duedd hirdymor o'r gymhareb rhwng yr oedran gweithio a bod yn hŷn na’r boblogaeth sy’n oedran gweithio. 
  • Bydd incwm cyfartalog cartrefi yng Ngheredigion wedi cynyddu o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru  
  • Bydd lefelau gweithgarwch corfforol, cymdeithasol a diwylliannol wedi cynyddu gan arwain at fwy o fanteision o ran iechyd corfforol a meddyliol i drigolion Ceredigion.
  • Bydd gan ddinasyddion Ceredigion lefelau cynyddol o gymwysterau ffurfiol ac anffurfiol a mesurau eraill sy'n cydnabod cyrhaeddiad dysgu a sgiliau.

Beth yw'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt?

Mae darparu cymorth i bobl o bob oed sydd â phob math o anghenion yn her fawr i'r Cyngor sydd ag adnoddau cyfyngedig.  Mae'r ddemograffeg wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf gyda chynnydd mawr yn y grwpiau oedran hŷn sy'n byw yng Ngheredigion. O ganlyniad, mae'r galw am rai gwasanaethau wedi cynyddu, gan roi mwy o bwysau ariannol ar y meysydd gwasanaeth hynny.

Mae deddf newydd, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi dod i rym hefyd ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod newid ei arferion gwaith cyfredol.  Erbyn hyn mae gofyniad cyfreithiol ar y gwasanaeth i ddatblygu amrywiaeth o strategaethau ymyrryd yn gynnar ac atal sy'n cynnwys trefniadau cydweithredol â chymunedau a'r sector gwirfoddol i gefnogi byw'n annibynnol.  Mae'r ddeddf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio mewn partneriaeth agosach â'r Bwrdd Iechyd, y trydydd sector a chymunedau i sicrhau strategaethau effeithiol sy'n hyrwyddo ac yn cynnal annibyniaeth.

Mae'r lefelau diweithdra ynghyd â'r lefelau incwm isel wedi ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl cael tai diogel a fforddiadwy.

Beth ydym ni am ei gyflawni/wella?

Mae pob cymuned yng Ngheredigion yn fwy rhagweithiol yn ei rôl a'i chyfrifoldebau i gefnogi a gofalu am bobl agored i niwed.  Trwy strategaethau a chynllunio diffiniedig, bydd cyrff gwirfoddol yn darparu'r seilweithiau cymunedol angenrheidiol i sicrhau bod cymunedau yn fwyfwy cydnerth.  Bydd rhwydweithiau cymorth yn cael eu gwella neu, lle y bo'n briodol, eu sefydlu i ateb anghenion lleol y grwpiau agored i niwed hyn yn ddyddiol.

Bydd Partneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu cyfeiriad strategol i roi sylw i'r galw am ofal nyrsio gwell ar draws y sir. At hynny, bydd y Bartneriaeth, mewn cydweithrediad â phartneriaid o'r trydydd sector, yn darparu cyfeiriad strategol i ddatblygu strategaethau ymyrryd yn gynnar ar gyfer y rhai sydd mewn angen i'w helpu i fyw'n annibynnol am gyfnod hwy gyda chymorth y teulu a'r gymuned.  Byddwn yn hybu byw'n iach trwy strategaeth hamdden gynhwysfawr sy'n cwmpasu pob grŵp oedran, gallu ac angen.
Bydd y Cyngor yn cynyddu'r ffocws ar ein polisi tai fforddiadwy o safon er mwyn sicrhau bod stoc tai addas ar gael i ateb anghenion ein dinasyddion.

Bydd cynnydd hefyd yn y ddarpariaeth gofal plant fforddiadwy ar draws y sir, gan felly galluogi teuluoedd i ailymuno â chyflogaeth amser llawn yn gynt a gwella lefelau incwm teuluoedd sydd â phlant ifanc.

Y canlyniadau a geisir

  • Bydd gan ddinasyddion o bob oed well ansawdd bywyd.
  • Rhwydweithiau cymorth gwell i deuluoedd a'r rhai sydd mewn angen ar draws y sir.
  • Gwell llesiant ac iechyd trwy fabwysiadu ymyraethau effeithiol.
  • Bydd rhwydweithiau sefydledig o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y sir yn darparu cymorth ataliol strategol, gan gynyddu cydnerthedd cymunedol a gofal cymdeithasol cynaliadwy.
  • Gwell dewis ac ansawdd tai lleol.

Sut byddwn yn gwybod i ni wneud gwahaniaeth?

  • O ystyried bod oedran y boblogaeth yn newid, bydd gan Geredigion lai o bobl sy’n agored i newid ac sydd angen cynllun gofal a chymorth a hynny drwy strategaethau ymyrryd cynnar ac atal llwyddiannus.
  • Bydd mesurau ansawdd bywyd ar gyfer unigolion wedi gwella.
  • Bydd tai fforddiadwy a diogel ar gael i deuluoedd a chartrefi ag incwm is. 

Beth yw'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt?

Mae'r elfennau naturiol yn fygythiad ac yn her gyson i arfordir Ceredigion.  Heb os dyma un o'n hasedau naturiol gorau ond un sydd angen gofal a sylw cyson.  Er i ni fuddsoddi dros £15m ar ddiogelu ein cymunedau arfordirol yn ystod y cyfnod gweinyddu diwethaf, mae angen gwneud llawer o waith o hyd i ddiogelu'r 60 milltir  o arfordir.

Mae ein hymrwymiad i'r ymdrechion cenedlaethol i leihau allyriadau carbon yn parhau'n flaenoriaeth uchel.  Bydd teithio bob amser yn broblem mewn ardal wledig, ond bydd buddsoddi yn ein seilwaith technolegol yn ein galluogi i leihau'n sylweddol yr angen i deithio.

Mae rheoli a gwaredu gwastraff yn parhau i greu heriau.  Mae safleoedd tirlenwi yn gyfyngedig o ran capasiti ac yn gostus.  Mae gan Geredigion hanes blaenorol gwych o ailgylchu. Yr her yw gwella ar y perfformiad hwn dros y pum mlynedd nesaf.

Mae rôl allweddol gan y Cyngor i'w chwarae o ran diogelu a gwella adnoddau naturiol y sir, gan geisio diogelu ansawdd aer, tir a dŵr a hyrwyddo, diogelu a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfrifoldebau stiwardiaeth amgylcheddol hefyd yn ymestyn i'r amgylchedd adeiledig, ac mae rheoli'r datblygiad a'r defnydd o dir mewn modd cadarnhaol yn y dyfodol yn hollbwysig.

Mae'n rhaid i'r Cyngor wella a datblygu gallu cymunedau i ymateb i fygythiadau, digwyddiadau ac achosion amgylcheddol. Ar ôl lleihau gweithlu'r Cyngor yn sylweddol, bydd yn hollbwysig i ni fanteisio ar yr ewyllys da arbennig sydd i'w gweld yn ein cymunedau i gefnogi ein gilydd.

Beth ydym ni am ei gyflawni/wella?

Rydym am feithrin ymdeimlad cynyddol o falchder yn ein cymunedau lle mae rhwydweithiau yn cydweithio i gefnogi ei gilydd a gwarchod yr amgylchedd lleol. Byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau arfordirol, parhau i leihau gwastraff a rheoli ein hallyriadau carbon.
Bydd y Cyngor yn parhau i wireddu'r weledigaeth strategol o gael amgylchedd glân ac iach lle mae Ceredigion yn parhau i fod yn lleoliad diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag ef.

Byddwn yn ceisio gwella buddsoddiad yn ein seilwaith band eang a symudol.

Y canlyniadau a geisir

  • Bydd Ceredigion yn dangos safonau uchel o stiwardiaeth amgylcheddol a bioamrywiaeth.
  • Bydd y Cyngor yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at fynd i’r afael â’r achosion a lliniaru effeithiau newid hinsawdd a niwed amgylcheddol.
  • Bydd cymunedau Ceredigion yn dangos gwell cydnerthedd wrth ddelio â heriau amgylcheddol a chymdeithasol.
  • Gwnawn sicrhau diogelwch parhaol y trigolion mewn ardaloedd arfordirol trwy sicrhau buddsoddiad pellach.

Sut byddwn yn gwybod i ni wneud gwahaniaeth?

  • Caiff Ceredigion ei chydnabod fel ardal o harddwch eithriadol sy'n amgylchedd diogel, ffyniannus ac iach i fyw ynddo ac i ymweld ag ef.
  • Bydd gan y sir un o gyfraddau ailgylchu uchaf awdurdodau lleol Cymru ac un o'r cyfraddau isaf o wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
  • Bydd Ceredigion ymhlith yr awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru wrth leihau cyfraddau allyriadau carbon.
  • Bydd cymunedau ledled Ceredigion yn adrodd ynghylch mesurau gwell o gydnerthedd cymunedol.
  • Bydd seilwaith corfforol a threfniadol gwell yn rhoi sicrwydd i gymunedau yng Ngheredigion sydd mewn perygl.

Strategaeth Gorfforaethol 2017-2022

Crynodeb Dogfen Strategaeth Gorfforaethol 2017-2022