Erbyn hyn, wrth siarad am gydraddoldeb, rydym yn cyfeirio at “nodweddion gwarchodedig” pobl. Tra ei bod hi’n bwysig peidio â rhoi pobl mewn blychau, mae’r gyfraith yn gofyn i ni ystyried cydraddoldeb o dan benawdau penodol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cryfhau eich hawliau i beidio â chael rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn. Ystyr gwahaniaethu yw trin rhywun yn waeth na phobl eraill oherwydd eu bod yn wahanol.  Mae’r grwpiau hynny o bobl y mae hawl ganddynt i beidio â chael pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn wedi’u hymestyn hefyd.  Mae gan y bobl sy’n perthyn i’r grwpiau hyn yr hyn a elwir yn nodweddion gwarchodedig.  Does dim ots os yw’r nodweddion hyn yn perthyn i chi ai peidio, neu’r bobl yn eich bywyd.  Os cewch eich trin yn waeth gan fod rhywun yn credu eich bod yn perthyn i grŵp o bobl â nodweddion gwarchodedig, gelwir hyn yn gwahaniaethu.  Mae’r Ddeddf hefyd yn eich diogelu os oes nodweddion gwarchodedig gan y bobl yn eich bywyd, megis aelodau o’ch teulu, eich ffrindiau neu’ch cydweithwyr a’ch bod yn cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich cysylltiad â’r person hwnnw.  Er enghraifft, mae pobl yn gwahaniaethu yn eich erbyn gan fod eich mab yn hoyw.

Y Nodweddion Gwarchodedig yw:-

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhyw
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Statws priodasol neu bartneriaeth sifil (ar gyfer rhai agweddau ar y ddyletswydd dim ond o safbwynt bod rhaid rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu)

Cymraeg

Nid yw’r Iaith Gymraeg yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb gan y daw o fewn ei ddarn penodol ei hun o ddeddfwriaeth  sef Deddf Yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr Iaith Gymraeg 2011,  ond nid yw’n llai pwysig.  Gweler y dudalen ar yr Iaith Gymraeg am ragor o wybodaeth (ar gael yn fuan).

Yng Ngheredigion, mae angen penodol i  roi  ystyriaeth i'r iaith Gymraeg. Er bod hyn yn perthyn i fframwaith deddfwriaethol gwahanol, mae cryn gysylltiad rhwng y modd ehangach y mae'r cyngor yn ymdrin â chydraddoldeb ac amrywedd ac ymrwymiad y cyngor i'r Gymraeg - ac yn enwedig yr angen i sicrhau bod pobl yn gallu ymdrin â'r cyngor yn yr iaith o'u dewis nhw (Cymraeg neu Saesneg). 

Mae’r  gofynion i Asesu Effaith mewn perthynas â'r naw nodwedd a nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yr un mor berthnasol i'r Gymraeg.

Oed

Pan gyfeirir at hwn, unigolyn sy’n perthyn i oed penodol (e.e. 32 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18-30 mlwydd oed) a gyfeirir ato.

Anabledd

Mae anabledd gan unigolyn os oes nam meddyliol neu gorfforol arno sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r unigolyn hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Ailbennu rhyw

Y broses o newid o un ryw i’r llall

Beichiogrwydd a mamolaeth

Cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi yw beichiogrwydd.  Cyfeiria  mamolaeth at gyfnod ar ôl y geni, a chysylltir ef ag absenoldeb mamolaeth, yng nghyd-destun cyflogaeth.  Pan nad yw yng nghyd-destun gwaith, mae diogelwch rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth yn ymwneud â’r 26 wythnos ar ôl y geni, ac mae hyn yn cynnwys ymdrin â menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.

Hil

Cyfeiria at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, lliw a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) a gwreiddiau cenedlaethol neu ethnig.

Crefydd neu gred

Ystyrir crefydd yn ôl ei ystyr arferol ond cynhwysa chredo gredoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (e.e. Anffyddiaeth).  Yn gyffredinol, nid yw credo’n perthyn i’r diffiniad hwn os nad yw wedi effeithio ar eich ffordd o fyw neu’r penderfyniadau a wnaethoch.

Rhyw

Dyn neu fenyw.

Cyfeiriadedd rhywiol

Pa un ai yw atyniad rhywiol unigolyn tuag at ei ryw ei hunan, y rhyw arall neu’r ddau ryw.

Statws priodasol neu bartneriaeth sifil

Yng Nghymru, ni chaiff priodas ei chyfyngu bellach i uniad rhwng dyn a menyw.  Mae’n cynnwys uniad rhwng cyplau o’r un ryw hefyd.   Yn gyfreithiol, gellir cydnabod perthnasau rhwng cyplau o’r un ryw fel ‘partneriaethau sifil’.