Cefndir i Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Daeth Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r grym yn Ebrill 2016. Mae’r ddeddf yma yn gofyn i gyrff y sector cyhoeddus dod at ei gilydd trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGS) ar gyfer eu hardal leol.

Asesiad o Lesiant Lleol

Mae’r Asesiad o Lesiant Lleol yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a'i phwrpas yw gosod allan beth sydd yn bwysig i bobl a chymunedau Ceredigion o ran llesiant.

Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022

Dyma’r ail Asesiad sydd wedi’i chyhoeddi gan BGC Ceredigion ers cyflwyno’r Ddeddf. Caiff yr Asesiad ei lywio gan gasglu data, ymchwil a thystiolaeth, wrth wrando ar bobl a rhanddeiliaid, ac wrth ystyried tueddiadau’r dyfodol a’r pethau rydym yn medru rhagweld bydd yn digwydd yfory, y mae angen inni ddechrau cynllunio ar ei gyfer heddiw. Mae’r Asesiad yn darparu sylfaen dystiolaeth i gyfarwyddo'r Cynllun Llesiant Lleol, a fydd yn penderfynu beth fydd BGC Ceredigion yn gwneud dros y 5 mlynedd nesaf i wella llesiant pobl a chymunedau y Sir.

Cymeradwyodd y BGC Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022, ar ddechrau mis Mawrth 2022. Mae’r Asesiad ac atodiadau 1-12 (sydd yn cynnwys y fethodoleg, gwybodaeth ymgysylltu, ffynonellau a bylchau data a’r proffiliau cymunedol) wedi’i leoli o dan y ddolen dogfennau perthnasol i’r dde.

Cynllun Llesiant Lleol 2023-2028

Mae'n ofynnol i'r BGC osod Amcanion Llesiant sydd wedi eu cynllunio i wneud y mwyaf o'i gyfraniad yng Ngheredigion i gyflawni’r Nodau Llesiant cenedlaethol. Bydd y rhain yn ffurfio sail y Cynllun Llesiant Lleol 5 mlynedd sydd yn nodi sut y bydd y Bwrdd yn cydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion.

Dyma’r ail Gynllun Llesiant sydd wedi’i gyhoeddi gan BGC Ceredigion ers cyflwyno’r Ddeddf. Ar ôl ystyried canfyddiadau'r Asesiad Llesiant ynghyd ag ymatebion holiadur ac adborth a gafwyd mewn digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ym mis Mai a Mehefin 2022, datblygodd y BGC Gynllun Llesiant Lleol drafft ar gyfer Ceredigion am y 5 mlynedd nesaf. Cafodd trigolion Ceredigion eu gwahodd i rannu eu barn am y Cynllun drafft yn ystod cyfnod ymgynghori o 3 mis, a ddaeth i ben ar y 31ain o Ionawr 2023.

Ystyriodd y BGC yr Adroddiad Adborth Ymgynghoriad, a gwnaed diwygiadau i’r Cynllun drafft. Cymeradwyodd BGC Ceredigion fersiwn derfynol y Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer 2023-28 ar y 24ain o Ebrill 2023. Bydd lansiad Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28 yn cael ei gynnal yn ystod y misoedd nesaf a bydd mwy o wybodaeth am hyn yn dilyn.

Gellir gweld Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion ar gyfer 2023-28, yn ogystal â'r Adroddiad Adborth Ymgynghori, o dan yr adran Cynllun ar y dudalen hon.