Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wedi cymeradwyo a chyhoeddi Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022. Mae’r Asesiad yn darparu sylfaen dystiolaeth i gyfarwyddo Cynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion 2023-28. Bydd y Cynllun yma yn gosod allan ein Hamcanion Llesiant a’r gwaith wrth gydweithio fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) dros y 5 mlynedd nesaf.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n angen i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru cynhyrchu a chyhoeddi Asesiad o Lesiant Lleol. Pwrpas yr Asesiad yw cael llun cynhwysfawr o stad llesiant pobl leol a chymunedau Ceredigion, a’i ystyried ar draws y pedwar colofn o lesiant – sef ffactorau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae hyn hefyd yn cynnwys adnabod asedau, sialensiau a’r cyfleoedd mae dinasyddion Ceredigion yn wynebu. Hyn ydy’r ail Asesiad sydd wedi’i gyhoeddi gan BGC Ceredigion ers cyflwyno’r Ddeddf.

Caeodd yr ymgynghoriad ar ddrafft yr Asesiad ar y 28ain Ionawr 2022. Diolch i’r rhai a chyfrannodd i ddatblygiad yr Asesiad ac i bawb a chymerodd rhan, trwy rannu ei barnau, profiadau a’i syniadau. Cymeradwyodd BGC Ceredigion yr Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022 ar y 7fed o Fawrth 2022. Mae’r Asesiad yma yn dangos llun cyfoes a cynhwysfawr o stad llesiant pobl leol a chymunedau Ceredigion.

Mae’r Asesiad yn darparu sylfaen dystiolaeth i gyfarwyddo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28, bydd hyn yn gosod allan sut y byddwn yn gwella llesiant Ceredigion a’i chymunedau dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae’r ddolen i’r Asesiad a’r atodiadau sy’n cefnogi’r Asesiad wedi’i lleoli isod. Mae’r atodiadau yn cynnwys y fethodoleg, gwybodaeth ymgysylltu, ffynonellau a bylchau data, a’r deg Proffil Ardal ar gyfer cymunedau Ceredigion. Mae’r Proffiliau Ardal yn darparu trosolwg o’r llesiant ar lefel cymunedol ac i Geredigion ar y cyfan.

Os oes angen i chi cysylltu a ni neu os oes angen unrhyw gwybodaeth mewn fformatau gwahanol, (er enghraifft print mawr neu Hawdd i’w Ddarllen), cysylltwch a ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk os gwelwch yn dda.