Mae'r dudalen hon yn cynnwys map cyffredinol o ardal Cyngor Sir Ceredigion. Mae Cymru'n cynnwys 22 o awdurdodau lleol, sydd yn eu tro wedi'u rhannu'n wardiau etholiadol a chymunedau.
O fis Mai 2022, bydd newidiadau i'r wardiau etholiadol yng Ngheredigion. Bydd 34 o wardiau etholiadol, a gynrychiolir gan 38 o Gynghorwyr etholedig. Bydd 2 Gynghorydd etholedig yr un yn cynrychioli Aberystwyth Penparcau, Aberystwyth Morlais a Glais, Beulah a Llangoedmor ac Aber-porth a’r Ferwig.
Bydd ffiniau llawer o wardiau etholiadol yn newid o fis Mai 2022.
Map o’r lleoliadau
Gallwch glicio ar y map i weld eich Ward chi. Hefyd gallwch weld marciau sy’n dynodi’r gorsafoedd pleidleisio yn y ward honno. Cliciwch ar un o’r marciau hyn i gael y wybodaeth lawn am yr orsaf.
Map enghreifftiol sy’n dangos ffiniau’r Ward a marc ar gyfer gorsaf bleidleisio.