Cynhelir Etholiadau Llywodraeth Leol ddydd Iau, 5 Mai 2022.
Cynhelir Etholiadau Llywodraeth Leol, sef Etholiadau’r Cynghorau Sir a’r Cynghorau Tref a Chymuned, bob pum mlynedd.
Bydd gan Gyngor Sir Ceredigion 38 Cynghorydd etholedig o fis Mai 2022 ymlaen. Bydd y rhain yn cynrychioli 34 ward etholiadol:
Ward Etholiadol |
Nifer y Cynghorwyr |
Ward Etholiadol |
Nifer y Cynghorwyr |
Ceulan a Maesmawr
|
1 |
Llanfihangel Ystrad |
1 |
Y Borth |
1 |
Llansanffraid |
1 |
Tirymynach |
1 |
Aberaeron ac Aber-arth |
1 |
Trefeurig |
1 |
Ciliau Aeron |
1 |
Melindwr |
1 |
Ceinewydd a Llanllwchaearn |
1 |
Llanfarian |
1 |
Llannarth |
1 |
Faenor |
1 |
Llandysilio a Llangrannog |
1 |
Llanbadarn Fawr |
1 |
Llanbedr Pont Steffan |
1 |
Aberystwyth Morfa a Glais |
2 |
Llanwenog |
1 |
Aberystwyth Penparcau |
2 |
De Llandysul |
1 |
Aberystwyth Rheidol |
1 |
Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur |
1 |
Ystwyth |
1 |
Llandyfrïog |
1 |
Lledrod |
1 |
Penbryn |
1 |
Tregaron ac Ystrad-fflur |
1 |
Beulah a Llangoedmor |
2 |
Llanrhystud |
1 |
Aber-porth a’r Ferwig |
2 |
Llangeitho |
1 |
Mwldan |
1 |
Llangybi |
1 |
Teifi |
1 |
Yn dilyn Adolygiad Etholiadol, mae llawer o’r wardiau etholiadol wedi newid. Gweler Argymhellion Terfynol ar gyfer Ceredigion, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
-
Mae’r Cynghorau yn darparu ystod o wasanaethau i’w cymunedau. Mae rhai yn statudol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys casglu sbwriel a llyfrgelloedd. Mae eraill yn rheoleiddiol. Mae’n rhaid i’r rhain hefyd gael eu darparu ac maent yn cynnwys cynllunio a rheoli’r modd y mae tir ac eiddo’n cael eu datblygu, a thrwyddedu eiddo neu dacsis, er enghraifft. Yn olaf, mae gwasanaethau dewisol y bydd cynghorau efallai yn dewis eu darparu, megis hybu twristiaeth.
Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae eich Cyngor yn gyfrifol amdanynt:
- Addysg - Ysgolion a chludiant i ysgolion
- Tai - Strategaethau, cyngor, darpariaeth, a gweinyddu budd-daliadau
- Gwasanaethau Cymdeithasol - Gofalu am blant, pobl hŷn a phobl anabl a’u diogelu
- Priffyrdd a Thrafnidiaeth - Cynnal a chadw ffyrdd, rheoli a chynllunio trafnidiaeth, enwi strydoedd
- Rheoli Gwastraff - Casglu sbwriel, ailgylchu a thipio anghyfreithlon
- Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol - Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau
- Diogelu’r Defnyddiwr - Safonau Masnach
- Gwasanaethau Amgylcheddol - Diogelwch bwyd, rheoli llygredd
- Cynllunio - Cynllunio datblygu a rheoli datblygu
- Datblygiad Economaidd - Denu busnesau newydd, hybu hamdden a thwristiaeth
- Cynllunio ar gyfer Argyfwng - Rhag ofn y bydd argyfyngau megis llifogydd, afiechydon neu ymosodiadau gan derfysgwyr.
Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch rôl Cynghorydd a’r broses enwebu, dyma rai dolenni defnyddiol:
- Canllaw i Ymgeiswyr – beth yw rôl Cynghorydd, pa gymorth sydd yn cael ei ddarparu, a ydych yn gymwys i sefyll yn yr etholiad ayb. [dolen i ddilyn]
- Byddwch Yn Gynghorydd, Sicrhewch Mai Chi Yw’r Newid
- ‘Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth’ Cyngor Sir Ceredigion
Cynhaliwyd Sesiwn Briffio darpar Ymgeiswyr ac Asiantiaid ar ddydd Mawrth, 1 Mawrth 2022.
Cliciwch yma am y cyflwyniad
Cliciwch yma am amserlen yr etholiad
Er mwyn cael gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy e-bost swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk
Cynhelir sesiwn friffio bellach i Ymgeiswyr ar 11 Ebrill 2022. Os ydych yn ymgeisydd ond heb derbyn gwahoddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk
Mae 51 o Gynghorau Tref a Chymuned yng Ngheredigion.
Gall Cynghorau Tref a Chymuned osod ‘praesept’ neu ‘dreth’ a gesglir gan y Cyngor Sir gyda Threth y Cyngor.
Mae lefel y gwasanaethau a ddarperir gan y cynghorau cymuned a thref yn amrywio ledled Cymru ond gallant gynnwys:
- darparu cynlluniau trafnidiaeth cymunedol a’u cynnal a’u cadw
- prosiectau ieuenctid lleol
- gweithgareddau twristiaeth
- cyfleusterau hamdden
- meysydd parcio
- meysydd pentref
- toiledau cyhoeddus
- biniau sbwriel
- cynlluniau bioamrywiaeth (mae dyletswydd dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2021 i bob cyngor baratoi cynlluniau bioamrywiaeth)
- claddfeydd
- rhandiroedd
- cysgodfannau bysiau
- tiroedd comin a mannau agored
- llwybrau troed a llwybrau ceffylau
- mesurau i leihau troseddau
- darparu neuadd bentref neu gyfrannu at gorff arall sy’n darparu cyfleuster o’r fath.
Yn ogystal, mae llawer o gynghorau yn defnyddio pŵer dewisol Adran 137 sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau eraill, megis ffonau cyhoeddus; meddygfeydd pentref; cadw neu adfer hen wrthrychau neu adeiladau; cystadleuaeth y pentref taclusaf; tacluso tir nad oes neb yn gwybod pwy yw ei berchennog; coed Nadolig; sioeau blodau, gwyliau a ffeiriau; cyfraniadau at grwpiau chwarae a chlybiau ieuenctid; pryd ar glud; a chymorth i’r anabl.
Mae bron pob cyngor cymuned yn cyflogi Clerc / Swyddog Ariannol Cyfrifol sy’n gyfrifol am weinyddu’r Cyngor mewn modd effeithlon, gan gynnwys gweinyddu cyfarfodydd; sicrhau bod y cyngor yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ac ymdrin â’r prosesau cyllidol. Mae gofyn i bob cyngor gael rheolau sefydlog a rheoliadau cyllidol i reoleiddio eu gweithrediadau.
Bydd y Cynghorau Tref a Chymuned yn gweithio’n agos gyda’r cynghorwyr a’r cyngor ar faterion sydd o fudd cyffredin neu faterion y maent yn rhannu pryder yn eu cylch.
Un Llais Cymru yw’r sefydliad sy’n cynrychioli ac yn darparu gwasanaethau cymorth i gynghorau cymuned a thref ledled Cymru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i.
http://www.unllaiscymru.org.uk
Mae Canllaw’r Cynghorydd Da hefyd yn adnodd defnyddiol
Cynhaliwyd Sesiwn Briffio darpar Ymgeiswyr ac Asiantiaid ar ddydd Mercher, 2 Mawrth 2022.
Cliciwch yma am y cyflwyniad
Cliciwch yma am amserlen yr etholiad
Er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol, cysylltwch â ni drwy e-bost swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk
Cynhelir sesiwn friffio bellach i Ymgeiswyr ar 12 Ebrill 2022. Os ydych yn ymgeisydd ond heb derbyn gwahoddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk
Mae'r wybodaeth isod yn berthnasol i Etholiadau Cynghorau Sir a Chyngor Tref / Cymuned ac maent yn bwysig i chi eu nodi fel ymgeiswyr ac asiantiaid:
Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yw’r Swyddog Canlyniadau ac mae e’n gyfrifol am y canlynol:
- Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
- Gweinyddu’r broses enwebu
- Annog pobl i gymryd rhan
- Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
- Darparu gorsafoedd pleidleisio a sicrhau bod y cyfarpar priodol ynddynt
- Penodi staff i’r gorsafoedd pleidleisio
- Cynnal yr etholiad
- Rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
- Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
- Datgan y canlyniadau.
Mae dau Ddirprwy Swyddog Canlyniadau, sef Barry Rees a Lowri Edwards a fydd yn cynorthwyo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal yr etholiad.
Dylid gwneud unrhyw ymholiadau i’r Swyddog Canlyniadau neu’r Dirprwy Swyddogion Canlyniadau naill ai drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.
Digwyddiad |
Dyddiad (erbyn pryd os nad yw’n ganol nos) |
Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad |
Dydd Gwener, 18 Mawrth |
Cyflwyno’r papurau enwebu Gall papurau enwebu gael eu cyflwyno yn electronig neu wyneb yn wyneb. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir. |
Rhwng dydd Llun, 21 Mawrth a 4pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill
|
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu |
4pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill |
Gwneud gwrthwynebiadau i bapurau enwebu |
Rhwng 10am a 12 canol dydd, ddydd Mawrth, 5 Ebrill, gellir gwneud gwrthwynebiad i bob enwebiad a ddosbarthwyd. Rhwng 12 canol dydd a 5pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill, yr unig enwebiadau y gellir eu gwrthwynebu yw’r rhai a ddosbarthwyd ar ôl 4pm ddydd Llun, 4 Ebrill. |
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer tynnu’n ôl |
4pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill |
Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi |
4pm ddydd Mawrth, 5 Ebrill |
Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad |
Dydd Mawrth, 5 Ebrill |
Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd |
Heb fod yn hwyrach na 4pm ddydd Mercher, 6 Ebrill |
Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a lleoliad gorsafoedd pleidleisio |
Heb fod yn hwyrach na 4pm ddydd Mercher, 6 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru |
Dydd Iau, 14 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau drwy’r post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes |
5pm ddydd Mawrth, 19 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) |
5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill |
Cyhoeddi ail hysbysiad interim o newid etholiad |
Rhwng dydd Mercher, 6 Ebrill a dydd Mawrth, 26 Ebrill (gan gynnwys y dyddiadau hyn) |
Yr amser cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng |
Ar ôl 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill |
Cyhoeddi’r hysbysiad terfynol o newid etholiad |
Dydd Mercher, 27 Ebrill |
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi |
Dydd Mercher, 27 Ebrill |
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd |
Dydd Iau, 28 Ebrill |
Diwrnod pleidleisio
|
Rhwng 7am a 10pm ddydd Iau, 5 Mai |
Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd |
5pm ddydd Iau, 5 Mai |
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng |
5pm ddydd Iau, 5 Mai |
Y tro olaf y gellir newid y gofrestr o ganlyniad i wall clerigol neu apêl gan y llys |
9pm ddydd Iau, 5 Mai |
Dilysu a Chyfrif |
Dydd Gwener, 6 Mai |
Mae hi’n dal yn ofynnol i sicrhau bod y mesurau COVID-19 priodol yn cael eu dilyn yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi “Cerdyn Gweithredu” sy’n darparu cyngor ar y mesurau rhesymol posibl i’w cymryd er mwyn lleihau’r risg o ddal a lledu coronafeirws wrth ymgyrchu.
Mae’r ‘Cerdyn Gweithredu’ yn cael ei ddiweddaru pan fo rheoliadau a mesurau COVID-19 yn newid.