Y Cod Ymddygiad

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae'n rhaid i bob Cyngor Sir a Chyngor Cymuned fabwysiadu Cod Ymddygiad, sydd yn cynnwys holl ddarpariaethau'r cod enghreifftiol a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar 17 Ebrill 2008, penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion fabwysiadu'r cod enghreifftiol presennol fel ei God Ymddygiad ei hun o 5 Mai 2008.

Daeth Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif 2016/84) i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000, a’r darpariaethau dilynol yn Neddf Llywodaeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013. Gwnaeth Gorchymyn 2016 ddiwygio’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau llywodraeth leol, a amlinellwyd yng Ngorchymyn 2008. Yn unol ag Adran 51, Deddf 2000, rhaid i bob awdurdod perthnasol (gan gynnwys cynghorau sir a chymuned) o fewn 6 mis o’r dyddiad y gwnaed Gorchymyn 2016, fabwysiadu’r Cod Ymddygiad diwygiedig. Ar 21 Ebrill 2016, penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion fabwysiadu’r Cod Enghreifftiol diwygiedig gan ddod i rym ar 20 Mai 2016.

Mae'r Cod yn seiliedig ar Egwyddorion a gyhoeddwyd gan y Cynulliad, sy'n rheoli ymddygiad aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig Cynghorau Sir a Chynghorau Cymuned yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn wedi'u cynnwys ar dudalennau 4 a 5 y Cod.

Y mae'n ofynnol i holl aelodau etholedig a chyfetholedig Cynghorau Sir a Chynghorau Cymuned ymrwymo'n ysgrifenedig i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad y mae eu hawdurdod wedi'i fabwysiadu.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau ynghylch y Cod Ymddygiad i aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru.

Sut mae cwyno os ydych yn credu bod Cynghorydd wedi torri'r Cod Ymddygiad?

Gall unrhyw un sy'n credu bod Cynghorydd wedi torri'r Cod Ymddygiad wneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a fydd wedyn yn penderfynu a ddylid ymchwilio i'r mater ai peidio.

Os penderfyna'r Ombwdsmon bod digon o dystiolaeth, bydd yn anfon adroddiad ffurfiol i Bwyllgor Moeseg a Safonau'r Cyngor neu Banel Dyfarnu Cymru, a fydd wedyn yn penderfynu a dorrwyd y cod ai peidio. Os bydd hynny wedi digwydd, penderfynir ynghylch y gosb i'w rhoi i'r aelod dan sylw. Mae'r Pwyllgor Moeseg & Safonau yn meddu ar y grym i geryddu aelod, neu i wahardd yr aelod yn llwyr neu'n rhannol am gyfnod na fydd yn hwy na chwe mis. Y gosb fwyaf y gall Panel Dyfarnu Cymru ei rhoi i aelod yw ei wahardd o'i swydd am bum mlynedd.

Cofrestr Buddiannau Aelodau

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae'n ofynnol i'r Cyngor Sir sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau aelodau ac aelodau cyfetholedig y Cyngor. Mae Paragraff 15 o'r Cod Ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynghorwyr Sir gofrestru manylion eu buddiannau ariannol a buddiannau eraill yn y Gofrestr y mae'r Cyngor yn ei chadw, a hynny o fewn 28 diwrnod o gael eu hethol.

Hefyd, mae cyfrifoldeb parhaus ar y Cynghorwyr i hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig am eu buddiannau personol wrth ymdrin â busnes y Cyngor trwy lanw ffurflen Hysbysu ynghylch Buddiannau Personol yn y cyfarfodydd. Caiff y ffurflenni hyn wedyn eu cadw yn y Gofrestr Buddiannau Aelodau.

Gall unrhyw un sy'n dymuno gweld y Gofrestr Buddiannau Aelodau gysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd:

Gollyngiadau

Mae'r Cod Ymddygiad yn gofyn i'r Cynghorwyr ddatgelu rhai buddiannau, ac mewn rhai achosion, i beidio â chymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y materion hynny mewn cyfarfodydd. Mae gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau y disgresiwn i gael gwared ar y cyfyngiadau hyn trwy roi gollyngiadau a fydd yn caniatáu i'r aelodau naill ai siarad a phleidleisio neu siarad ond nid pleidleisio mewn cyfarfodydd. Y rheoliadau sy'n dynodi ar ba sail y rhoddir y gollyngiadau.

Dylai'r Aelodau sy'n dymuno gwneud cais am ollyngiad lanw ffurflen Cais am Ollyngiad a'i dychwelyd at Swyddog Safonau'r Cyngor Sir, Adran y Prif Weithredwr, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA neu ar e-bost moesegasafonau@ceredigion.gov.uk

Gofynnir i'r Aelodau sicrhau bod y ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor Moeseg a Safonau ddod i benderfyniad. Mae'n debygol y bydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu dychwelyd at yr ymgeiswyr. Mae'r ffurflen gais yn cynnwys nodiadau canllaw i'r Cynghorwyr a gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau at y Swyddog Safonau ar 01545 570881.

Ar ôl cwblhau'r ffurflen gais, gall y Cynghorwyr ddewis dod gerbron y Pwyllgor i gyflwyno'r cais am ollyngiad yn bersonol. Mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi paratoi canllawiau ynghylch cyflwyno ceisiadau yn bersonol i gynorthwyo aelodau sy'n dymuno dod gerbron y Pwyllgor.