"Ein gweledigaeth yw y bydd gan bobl Ceredigion ffydd ac ymddiriedaeth fod pob un a etholwyd i weithredu mewn llywodraeth leol yn ein sir yn cynnal y safonau moesegol a moesol uchaf wrth wasanaethu eu cymuned".

Datganiad o weledigaeth y Pwyllgor Moeseg & Safonau - Chwefror 2012

Beth yw gwaith y Pwyllgor Moeseg a Safonau?

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn amlinellu swyddogaethau'r Pwyllgor Moeseg a Safonau fel a ganlyn:-

  • hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Gynghorwyr
  • cynorthwyo'r Cynghorwyr i gadw at y Cod Ymddygiad
  • cynghori'r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio'r Cod Ymddygiad
  • monitro gweithredu'r Cod Ymddygiad, a
  • cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Cynghorwyr ar faterion yn ymwneud â'r Cod Ymddygiad.

Gall y Pwyllgor Moeseg a Safonau hefyd roi gollyngiadau sy'n caniatáu i Gynghorwyr sydd â buddiant mewn eitem benodol o fusnes y Cyngor barhau i gymryd rhan yn y busnes hwnnw.

Efallai y caiff adroddiadau ymchwilio y mae'r Ombwdsmon neu Swyddog Monitro'r Cyngor wedi'u paratoi ynghylch honiadau bod y Cod Ymddygiad wedi ei dorri eu cyfeirio at y Pwyllgor Moeseg a Safonau fel y gellir penderfynu yn eu cylch.

Mae gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau hefyd y cyfrifoldebau uchod o ran Cynghorau Tref a Chymuned yng Ngheredigion.

Mae'r gwaith y mae Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion yn ei wneud yn cynnwys y canlynol:

  • cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu deunydd hyfforddi ar y Cod, gan gynnwys siart llif sy'n rhoi crynodeb o'r prif ddarpariaethau
  • mynd i'r sesiynau hyfforddi ynghylch y Cod i'r Cyngor Sir a'r Cynghorau Cymuned gan gymryd rhan ynddynt
  • mynd i gyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau i wylio'r trafodaethau
  • cyflwyno gweithdrefnau sy'n caniatáu i Gynghorwyr ddod i gyfarfodydd y Pwyllgor i gyflwyno cais am ollyngiad yn bersonol
  • rhoi cyngor i Gynghorwyr ynglŷn â cheisiadau am ollyngiadau

Pwy yw aelodau'r Pwyllgor Moeseg a Safonau?

Mae cyfanswm o 9 o aelodau ar y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gan gynnwys 5 aelod annibynnol, 2 Gynghorydd Sir a 2 Gynghorydd Cymuned. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor feddu ar fwyafrif o aelodau annibynnol. Ni ddylai'r aelodau hyn fod yn aelodau nac yn swyddogion Cyngor Sir Ceredigion na unrhyw awdurdod lleol arall. Rhaid i aelod annibynnol gadeirio'r Pwyllgor.

Os bydd angen penodi aelodau annibynnol, hysbysebir y swyddi gwag yn y wasg leol a gwneir yr apwyntiadau yn unol ag argymhelliad y panel dewis. Rhaid i'r panel hwnnw gynnwys o leiaf un aelod lleyg nad ydyw ar hyn o bryd nac wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol.

Pryd mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cwrdd?

Cynhelir cyfarfodydd o'r Pwyllgor Moeseg a Safonau bob dau fis. Gellir galw cyfarfodydd hefyd ar adegau eraill er mwyn ystyried ceisiadau am ollyngiadau neu unrhyw faterion brys. Tarwch olwg ar restr y cyfarfodydd am ragor o fanylion.

Penderfyniadau'r Pwyllgor Moeseg a Safonau

Un o swyddogaethau'r Pwyllgor Moeseg a Safonau yw ystyried adroddiadau ymchwilio y mae'r Ombwdsmon neu Swyddog Monitro'r Cyngor wedi'u paratoi ynghylch honiadau bod Cynghorwyr Sir neu Gynghorwyr Cymuned wedi torri'r Cod Ymddygiad.

Os bydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn penderfynu nad yw aelod wedi cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, gall benderfynu ar y canlynol:-

  • nad oes angen cymryd camau am beidio â chydymffurfio â'r cod
  • y dylid ceryddu'r aelod, neu
  • y dylid atal yr aelod, neu ei atal yn rhannol, rhag bod yn aelod am gyfnod heb fod yn fwy na 6 mis

Gall aelod apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Moeseg a Safonau trwy fynd at Banel Dyfarnu Cymru.

Gweler y rhan 'I’w lawrlwytho'