Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gyflawni yn unol â’r gyfraith a’r safonau priodol, a bod arian y cyhoedd yn cael ei ddiogelu, ei gyfrifo'n gywir, a'i ddefnyddio’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.

Yn ogystal, mae gan yr Awdurdod ddyletswydd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 dros wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn y modd y mae ei swyddogaethau’n cael eu gweithredu, gan ystyried cyfuniad o economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Wrth weithredu’r cyfrifoldeb cyffredinol hwn, mae’r Awdurdod yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer llywodraethu ei faterion ac am hwyluso’r modd y gweithredir ei swyddogaethau’n effeithiol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer rheoli risgiau.

Cyhoeddwyd Fframwaith Llywodraethu newydd yn 2016 ac mae’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Mae’r datganiad hwn yn egluro sut y mae’r Awdurdod wedi cydymffurfio â’r fframwaith a diwallu gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2010.