Crynodeb o hawliau fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Ceredigion

Crynodeb o Hawliau i Archwilio Dogfennau (18 Medi 2002)

Rynodeb O Hawliau I Fod Yn Bresennol Yng Nghyfarfodydd Cyngor Sir Ceredigion, Ei Gabinet, Pwyllgorau Ac Is-Bwyllgorau Ac I Archwilio A Chopïo Dogfennau O Dan Ran Va, Rhan Xi Ac Atodlen 12a O Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Fel Y&Rsquo;I Diwygiwyd) Ac Yn Unol  Chyfansoddiad Y Cyngormynediad I Gyfarfodydd

  1. Mae cyfarfodydd Cyngor Llawn Cyngor Sir Ceredigion a’i Gabinet, Pwyllgorau ac Is-Bwyllgorau (fel a nodir yn Atodiad I) yn agored i’r cyhoedd, yn ddibynnol ar baragraff 2 a 3 isod
  2. Disgwylir i’r cyhoedd gael eu gwahardd o gyfarfod yn ystod unrhyw eitem busnes pan bynnag y bydd yn debygol, os ydynt yn bresennol, y bydd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu yn groes i ymrwymiad o hyder. Golyga gwybodaeth gyfrinachol wybodaeth a roddir i’r Cyngor gan Adran y Llywodraeth ar delerau sydd yn gwahardd iddi gael ei datgelu i’r cyhoedd a gwybodaeth na ellir ei datgelu gan Ddeddf neu Orchymyn Llys
  3. Gall y cyhoedd gael ei eithrio drwy benderfyniad yn ystod eitem busnes pa bryd bynnag y bydd yn debygol y datgelir “gwybodaeth wedi ei heithrio”. Ddiffinnir gwybodaeth wedi ei heithrio i gynnwys materion megis gwybodaeth bersonol, materion cyllidol a busnes pobl neu gwmnïau y mae’r Cyngor yn delio â hwy, camau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd mewn cyswllt â chysylltiadau diwydiannol, trafodion troseddol, ymgynghoriadau a thrafodaethau a chyngor yn ymwneud ag achosion cyfreithiol. Rhestrir y 15 categori llawn yn Atodiad II

Mynediad i Agenda ac Adroddiadau Cysylltiedig.

  1. Mae copïau o agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfod o Gyngor Llawn Cyngor Sir Ceredigion a’i Gabinet, Pwyllgorau ac Is-Bwyllgorau ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd, ac eithrio ar gyfer unrhyw adroddiad ar eitem pan na fydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd (megis Adroddiadau sydd wedi eu marcio “Nid ar gyfer Eu Cyhoeddi” ynghyd â’r categori gwybodaeth sydd yn debygol o gael ei ddatgelu). Mae dogfennau ar gael dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod neu cyn gynted ag y gelwir y cyfarfod neu cyn gynted ag yr ychwanegir eitem at yr agenda, os yn llai na thri diwrnod. Mae’r papurau ar gael i’w harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA rhwng 9.00 am a 4.30 pm ar ddiwrnodau’r wythnos (Teliffon 01545 572031/572034)
  2. Mae copïau o agendâu ac adroddiadau ar gael i aelodau o’r cyhoedd sydd yn bresennol yn y cyfarfod. Gellir gweld rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol bresennol yma neu eto drwy ffonio’r Adran

Archwilio Cofnodion

  1. Ar ôl cyfarfod o’r Cyngor Llawn, y Cabinet, Pwyllgor ac Is-Bwyllgor, bydd copi o’r cofnodion neu grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yn breifat ar gael er mwyn i’r cyhoedd eu harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron rhwng 9.00 am a 4.30 pm ar ddiwrnodau’r wythnos. Mae’r hawl hwn i archwilio yn bodoli am chwe blynedd o’r dyddiad y galwyd y cyfarfod

Archwilio Papurau Cefndir

  1. Gall aelodau o’r cyhoedd hefyd archwilio rhestr o bapurau cefndir ar gyfer unrhyw adroddiad a chynhwysir copi o bob dogfen yn y rhestr honno. Mae’r hawl hwn ar gael cyn gynted ag y cyhoeddir yr agenda ac mae’n parhau am bedair blynedd o ddyddiad y cyfarfod. Ni ellir archwilio papurau cefndir sydd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth wedi ei heithrio
  2. Papurau cefndir yw dogfennau sydd yn gysylltiedig â thestun adroddiad, gan ddatgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y seilir yr adroddiad arnynt ac y dibynnwyd arnynt i raddau helaeth wrth baratoi’r adroddiad, ond eu bod yn hepgor unrhyw waith a gyhoeddwyd. Dylid gwneud cais am archwilio’r cyfryw ddogfennau i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron

Lowri Edwards
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor Ceredigion
ABERAERON
Ceredigion SA46 0PA 

Atodiad I

Cabinet

Pwyllgorau:-

Pwyllgor Datblygu Rheoli a Thrwyddedu
Pwyllgor Rhestr Fer
Pwyllgor ac Is-Bwyllgor Safonau

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu:-

Pwyllgor Cydlynu
Datblygu Economaidd, Twristiaeth Ewrop a Hyfforddiant
Addysg, Diwylliant a Hamdden
Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai
Cyllid a Phersonél
Priffyrdd, Eiddo a Gwaith
Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwyllgorau Eraill:-

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Ceredigion.

Atodiad II

Categori Amod
1. Gwybodaeth yn ymwneud â gweithiwr arbennig, cyn-weithiwr neu ymgeisydd i fod yn weithiwr, neu un sydd â swydd arbennig, un oedd â swydd, neu ymgeisydd i fod â swydd o dan yr awdurdod Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd
2. Gwybodaeth yn ymwneud â gweithiwr arbennig, cyn-weithiwr neu ymgeisydd i fod yn weithiwr, neu un sydd â swydd arbennig, un oedd â swydd, neu ymgeisydd i fod â swydd o dan Bwyllgor llys ynadon neu bwyllgor prawf Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd
3. Gwybodaeth yn ymwneud â deiliad arbennig neu gyn-ddeiliad neu ymgeisydd am lety a ddarperir gan neu ar draul yr awdurdod Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd
4. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgeisydd arbennig am, neu un sy’n derbyn neu a oedd yn derbyn unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd
5. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgeisydd arbennig am, neu un sy’n derbyn neu a oedd yn derbyn unrhyw gymorth ariannol a ddarperir gan yr awdurdod Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd
6. Gwybodaeth yn ymwneud â mabwysiadu, gofal, maethu neu addysg unrhyw blentyn arbennig Mae plentyn yn golygu rhywun o dan 18, rhywun sydd yn 18 ac sy’n dal wedi ei gofrestru fel disgybl ysgol, neu sy’n destun gorchymyn gofal, o fewn ystyr adran 31, Deddf Plant 1989
7. Gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson arbennig (heblaw’r awdurdod) Nid yw gwybodaeth o fewn paragraff 7 yn eithriedig os oes rhaid iddi gael ei chofrestru o dan amrywiol ddeddfau, fel y Ddeddf Cwmnïau neu’r Ddeddf Elusennau. Er mwyn bod yn eithriedig rhaid i’r wybodaeth ymwneud â thrydydd person arbennig y mae’n rhaid gallu ei adnabod
8. Cyfanswm unrhyw wariant y bwriedir ei wario gan yr awdurdod o dan unrhyw gytundeb arbennig i gaffael eiddo neu gyflenwi nwyddau neu wasanaethau Mae gwybodaeth o fewn paragraff 8 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai datgelu’r swm dan sylw yn debygol o roi mantais i berson sy’n llunio neu sy’n ceisio llunio cytundeb gyda’r awdurdod mewn perthynas â’r fantais a fyddai’n deillio fel yn erbyn yr awdurdod neu fel yn erbyn personau eraill o’r fath
9. Unrhyw delerau a argymhellwyd neu sydd i gael eu hargymell i’r awdurdod yn ystod trafodaethau am gytundeb am gaffael neu waredu eiddo neu gyflenwi nwyddau neu wasanaethau Mae gwybodaeth o fewn paragraff 9 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai datgelu’r telerau i’r cyhoedd yn niweidio’r awdurdod yn y trafodaethau hynny neu unrhyw rai eraill sy’n ymwneud â’r eiddo neu’r nwyddau neu’r gwasanaethau hynny. (Mae gwaredu eiddo yn cynnwys rhoi diddordeb mewn neu hawl drosto)
10. Identiti’r awdurdod (yn ogystal ag unrhyw berson arall, yn rhinwedd paragraff 7 uchod) fel y sawl sy’n cynnig unrhyw dendr arbennig ar gyfer cytundeb i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau At ddibenion y paragraff hwn, mae “tendr” yn cynnwys cais ysgrifenedig gan Weithlu Uniongyrchol y Cyngor a Gwasanaethlu Uniongyrchol y Cyngor
11. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu ymgynghoriadau neu drafodaethau a fwriedir, mewn cysylltiad ag unrhyw faterion yn ymwneud â chysylltiadau llafur yn codi rhwng yr awdurdod neu Weinidog y Goron a gweithwyr, neu ddeiliaid swyddi yr awdurdod Mae gwybodaeth o fewn paragraff 11 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai ei datgelu i’r cyhoedd yn niweidio’r awdurdod yn y trafodaethau hynny neu unrhyw rai eraill mewn cysylltiad â mater yn ymwneud â chysylltiadau llafur. Mae “materion yn ymwneud â chysylltiadau llafur” fel y nodwyd ym mharagraffau (a) i (g) adran 29(1) Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1974, h.y. materion a all fod yn destun anghydfod gydag undeb llafur
12. Unrhyw gyfarwyddiadau i fargyfreithwyr a barn unrhyw fargyfreithiwr (boed hynny mewn cysylltiad ag unrhyw drafodion ai peidio), ac unrhyw gyngor a dderbyniwyd, gwybodaeth a gafwyd neu gamau i’w cymryd mewn cysylltiad ag:(a) unrhyw drafodion cyfreithiol gan neu yn erbyn yr awdurdod; neu (b) benderfynu ar unrhyw fater sy’n effeithio ar yr awdurdod; p’run ai, yn y naill achos neu’r llall, a yw’r trafodion wedi eu dechrau neu y meddylir am eu dechrau  
13. Gwybodaeth a fyddai, pe bai’n cael ei datgelu i’r cyhoedd, yn datgelu bod yr awdurdod yn argymell - (a) rhoi o dan unrhyw ddeddf rybudd o dan neu yn rhinwedd yr hon y gosodir gofynion ar berson; neu (b) wneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddf Mae gwybodaeth o fewn paragraff 13 yn eithriedig dim ond os a chyhyd ag y gallai ddatgelu i’r cyhoedd fod yn gyfle i berson a effeithir gan y rhybudd, gorchymyn neu gyfarwyddyd drechu’r pwrpas neu un o’r pwrpasau dros roi rhybudd, gorchymyn neu gyfarwyddyd
14. Unrhyw gamau a gymerir neu i’w cymryd mewn cysylltiad ag atal, ymchwilio i neu erlyn trosedd  
15. Identiti achwynydd a warchodir Mae “achwynydd a warchodir” yn golygu person sy’n rhoi gwybodaeth i’r awdurdod sy’n tueddu i ddangos bod (a) trosedd; (b) torri dyletswydd statudol; (c) torri rheolau cynllunio; neu (d) aflonyddwch wedi, neu yn cael neu ar fin cael ei gyflawni

Nid yw gwybodaeth sy’n dod o fewn unrhyw rai o baragraffau 1 i 15 yn eithriedig yn rhinwedd y paragraff hwnnw os yw’n ymwneud â datblygiad arfaethedig y gall yr awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio iddo ei hun o dan Reoliad 3 o Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.

Gwybodaeth Arall

Y mae’r wybodaeth ganlynol hefyd ar gael o’r Cyngor:-

  • Manylion am y Cynghorwyr Sir
  • Aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgorau)
  • Rhaglen o Gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol bresennol
  • Rhestr o Glercod Cynghorau Cymuned o fewn Sir Ceredigion

Mae’r dogfennau canlynol hefyd ar gyfer eu harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron

(a) Cofnod o daliadau Lwfansau Aelodau a wnaethpwyd o dan Reoliad 18 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chyngorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002

(b) Cofrestr o Fudd Aelodau fel sydd yn ofynnol gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Budd Aelodau) 1992