Caiff unrhyw gwynion a dderbynnir ynglŷn â safon y gwasanaeth y mae’r Cyngor yn ei ddarparu (ac eithrio’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol) eu hystyried yn unol â’r Polisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol ac mae dau gam i’r broses:

Gall cwsmeriaid gyflwyno sylwadau, canmoliaeth neu gwynion yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn unol ȃ’u dewis iaith.

Cam 1: Datrys yn Anffurfiol

Os oes gennych chi unrhyw bryder, codwch y mater gyda’r person a fu’n delio gyda chi yn y lle cyntaf. Bydd ef neu hi’n ceisio datrys y mater yn y fan a’r lle, a dylech gael ymateb i’ch cwyn ymhen deg diwrnod gwaith. Os bydd unrhyw wersi i’w dysgu ar sail derbyn eich cwyn, fe gaiff y rhain eu rhannu ag aelodau eraill o staff. O bryd i’w gilydd credwn ei bod yn well ymdrin â chŵyn yn ffurfiol, a byddwn yn trafod hynny gyda chi os bydd angen.

Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol

Os na fu modd datrys eich pryderon yng Ngham 1, gallech wneud cais am ymchwiliad ffurfiol i’ch cwyn. Dylech wneud eich cais i’r Tîm Cwynion yn uniongyrchol a chyn gynted â phosib (fel arfer ymhen ugain diwrnod gwaith ar ôl cael ymateb i’ch cwyn yng Ngham 1) gan nodi’r rhesymau penodol pam na chredwch fod y Cyngor wedi datrys eich cwyn yng Ngham 1.

Byddwn yn cydnabod eich cais i ymdrin â’ch cwyn yng Ngham 2 ymhen pum diwrnod gwaith, ac yn gwneud pob ymdrech i ymchwilio i’r mater a rhoi ymateb ymhen ugain diwrnod gwaith. Mae’n werth nodi, fodd bynnag, y gall gymryd mwy o amser i ymchwilio i rai cwynion, ond byddwn yn rhoi gwybod ichi beth sy’n digwydd o dan amgylchiadau felly.

Ceir mwy o wybodaeth yn y Llyfryn Gweithdrefn Pryderon a Chwynion Corfforaethol.

Dylid nodi na fyddwn fel rheol yn ymdrin â chwynion am bethau a ddigwyddodd, neu y daethoch chi i wybod amdanynt, fwy na chwe mis yn ôl. Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn am rywbeth a ddigwyddodd fwy na chwe mis yn ôl, dylech esbonio pam nad ydych chi wedi cwyno’n gynt fel y gallwn gymryd hynny i ystyriaeth. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosib i esbonio ein penderfyniad, p’un a fyddwn ni’n cynnal ymchwiliad neu’n gwrthod.

Llanwch y ffurflen isod os dymunwch wneud cwyn:

Lansio'r Cyfleusterau Archwilio

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r drefn gwyno, holwch:

Y Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Canolfan Rheidol
Aberystwyth
Ceredigion, SY23 3UE

Ffôn: 01545 574151
E-bost: cwynion@ceredigion.llyw.cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os nad ydych chi’n fodlon ar y modd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, neu os credwch nad yw’r Cyngor wedi mynd i’r afael yn iawn â’r materion a godoch chi, gallech gyfeirio’r achos at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Byddai’r Ombwdsmon fel arfer yn disgwyl eich bod eisoes wedi cwyno i’r Cyngor cyn iddo ystyried eich achos; serch hynny, mae’n meddu ar y grym i dderbyn unrhyw gŵyn a’i hystyried ar unwaith os yw’n credu bod cyfiawnhad dros hynny.

Os ydych chi am wneud cwyn i’r Ombwdsmon, neu os ydych chi’n anfodlon ar y modd y mae’r Cyngor wedi ymdrin â’ch cwyn, ysgrifennwch at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 (cyfradd galwadau lleol)
E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru