Gwybodaeth a Rheolau ar Adnabod Moch

Gellir prynu'r holl offer o siopau amaethyddol.

Mae'r rheolau fel a ganlyn:

  • Bydd yn rhaid i bob mochyn dros 12 mis oed gael ei adnabod drwy ddefnyddio rhif cenfaint DEFRA ar gyfer pob daliad y byddant yn symud oddi wrtho
  • Rhaid medru adnabod yn barhaol pob mochyn cyn ei symud i farchnad, beth bynnag y bo ei oedran, ac os caiff ei symud i'r lladdfa neu ddaliad arall. Gellir adnabod mochyn naill ai drwy dag yn y glust neu tatŵ sy'n nodi rhif cenfaint Defra neu slapfarc. Bydd yn rhaid medru gweld y slapfarc ar ddwy ysgwydd y mochyn
  • Bydd yn rhaid i foch sy'n mynd i'r lladdfa feddu ar dag clust sy'n medru goroesi'r gwaith o brosesu'r carcas yn dilyn lladd y mochyn. Os bydd gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn hyn bydd angen i chi gysylltu â'r sawl wnaeth gyflenwi eich tagiau clust er mwyn ymholi ynglŷn â manylion penodol y tagiau
  • Gallwch barhau i symud moch o dan 1 oed rhwng daliadau drwy ddefnyddio marc paent dros dro a ddylai barhau o leiaf hyd nes bydd y mochyn yn cyrraedd pen ei daith
  • Pan fyddwch chi'n archebu cyfarpar slapfarc bydd yn dra phwysig bod y gweithgynhyrchwyr yn eich darparu â manylion cywir rhif y cenfaint wrth archebu

Tagiau Clust

  • Rhaid iddynt fedru gwrthsefyll gwres yn ddigonol er sicrhau nad yw'r tag clust na'r wybodaeth a brintiwyd na stampiwyd arno yn cael ei ddifrodi adeg prosesu'r carcas yn dilyn ei anfon i'r lladdfa
  • Rhaid iddynt gynnwys y llythyron "UK" ac yn dilyn hynny rhif y cenfaint er enghraifft UK AB 1234
  • Haws i'w ddarllen yn ystod oes y mochyn
  • Rhaid i dagiau fod wedi eu gwneud o fetel neu blastig neu gyfuniad o'r ddau
  • Medru gwrthsefyll unrhyw ymyrraeth ohono
  • Methu cael eu hail-ddefnyddio
  • O'r fath gynllun fel y bydd yn parhau ynghlwm wrth y mochyn heb ei niweidio
  • Gall tagiau a ddefnyddir er mwyn symud rhwng daliadau fod yn rhai plastig

Tatw

  • Gall fod yn datwˆ o rif eich cenfaint – ar y glust
  • Er enghraifft, AB1234
  • Nid oes angen yr "UK"

Slapfarc

  • Marc inc parhaol o rif eich cenfaint wedi'i osod ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn
  • Rhaid gallu ei ddarllen am oes y mochyn a thrwy gydol y broses o drin ei garcas
  • Er enghraifft, AB1234
  • Nid oes rhaid defnyddio "UK"
  • Caniateir defnyddio offer aer cywasgedig ar gyfer gosod slapfarc

Marc Dros Dro

  • Marc paent ar y mochyn er enghraifft, llinell goch, croes ddu neu gylch glas
  • Rhaid iddo barhau hyd nes bydd y mochyn yn cyrraedd pen ei daith
  • Ar y cyd a'r ddogfen symud bydd y marc dros dro yn nodi'r daliad lle y symudwyd y mochyn oddi yno

Adnabod Moch o dan 12 mis oed

  • Wrth symud rhwng daliadau mi ellir gwneud hynny ar farc paent dros dro
  • Os bydd yn mynd i ladd-dy neu i unrhyw fath o farchnad rhaid cael tag clust, tatŵ neu slap farciau dwbl

Adnabod Moch dros 12 mis oed

  • Symud rhwng daliadau i ladd-dy ac i unrhyw fath o farchnad gyda thag clust, tatŵ neu slap farciau dwbl sy'n dangos eich rhif cenfaint defra

Trwyddedau Cerdded Moch Anwes

  • Gellir cael trwydded i gerdded moch anwes
  • Am drwydded bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Ranbarthol Iechyd Anifeiliaid yng Nghaerfyrddin ar 01267 245400
  • Bydd angen cymeradwyo eich trywydd - Os bydd y swyddog milfeddygol yn yr AHO o'r farn fod risg i'r trywydd, ni chaiff ei gymeradwyo
  • Mae'n bosib na chaiff trywydd ei gymeradwyo os bydd yn agos i farchnad da byw, ffermydd moch â statws iechyd uchel neu siopau bwyd cyflym ayb
  • Os caiff ei gymeradwyo cewch drwydded fydd angen ei adnewyddu'n flynyddol

Am wybodaeth a rheolau ar adnabod moch o'r wefan Llywodraeth Cymru cliciwch ar y linc canlynol:

Canllaw Cadw Moch Llywodraeth Cymru