Mae'r Cyngor Sir hefyd yn chwarae rôl gynghori o ran nifer o gronfeydd eraill yr UE.
Yn eu plith y mae Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop (Interreg) i hyrwyddo cydweithrediad a masnach ar draws ffiniau, a Chronfa Pysgodfeydd Ewrop.
Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop (Interreg):
- Rhaglen Drawswladol Gogledd-orllewin Ewrop
- Rhaglen Drawswladol Ardal yr Iwerydd
- Rhaglen Gydweithredu Drawsffiniol Cymru ac Iwerddon
- Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (EFF)
Byddai'n dda gan yr Uned Adfywio roi rhagor o gyngor i rai sydd am fanteisio ar y cronfeydd hyn.