Mae’r cynllun hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau pellach.

Darperir y cronfeydd gan Lywodraeth y DU a byddant yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Croesawodd Cyngor Sir Ceredigion y cyhoeddiad hwn gan Ganghellor y Trysorlys yn ystod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (27 Hydref 2021) yn dilyn cadarnhad y byddai Ceredigion yn cael buddsoddiad ar gyfer prosiect yr Hen Goleg a’r Harbwr yn rhan o Gronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig.

Bydd Cronfa Codi’r Gwastad yn buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at wireddu a rhoi cynlluniau Prifysgol Aberystwyth ar waith a fydd yn rhoi bywyd newydd i’r Hen Goleg, yn ogystal â chreu Harbwr Byw ac Adnewyddu’r Promenâd yn Aberystwyth.

Cyflwynwyd y cais gan Gyngor Sir Ceredigion yn ystod mis Mehefin 2021 yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid a phartneriaid lleol ac mae’n llunio rhan o weledigaeth Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer hybu’r economi.

Bydd y buddsoddiad a dderbynnir trwy Gronfa Codi’r Gwastad y DU yn gyfle i roi cychwyn ar raglen o fuddsoddiada a fydd yn helpu i wella Aberystwyth fel lleoliad i fyw, ymweld, gweithio ac astudio.