Sylwch: Dim ond y busnesau / unigolion hynny sydd wedi cwblhau'r Gwiriwr Cymhwyster trwy Fusnes Cymru all wneud cais. Os nad ydych wedi cwblhau'r gwiriwr cymhwysedd hyd yma, gwnewch hynny trwy'r ddolen ganlynol: –

https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy

Grant yw hwn i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd newydd eu creu sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.

Diben y grant yw cefnogi busnesau newydd gyda chymorth llif arian ar unwaith i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd COVID-19. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.

Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant fel a ganlyn:

  • Wedi dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020
  • Trosiant blynyddol / rhagweladwy yn debygol o fod yn llai na £50,000
  • Heb fod yn derbyn Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig, y Grant Ardrethi Annomestig, y Gronfa Cadernid Economaidd
  • Rhaid i fusnesau fod yn gweithredu yng Nghymru
  • Rhaid i fusnesau gael un neu fwy o'r canlynol
    • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr CThEM
    • Rhif Cofrestru TAW neu dystysgrif eithrio TAW
    • Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau ei fod wedi cofrestru gyda CThEM
  • Wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn trosiant o ganlyniad i'r achosion o COVID-19 rhwng Ebrill a Mehefin 2020
  • Rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth geisio cynnal swyddi am 12 mis
  • Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru i gael cymorth gyda gwasanaeth Busnes Cymru unwaith y dyfernir y grant

I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, darllenwch Ganllawiau'r Grant Cychwyn Busnes.

Os ydych chi wedi darllen y canllawiau a'ch bod yn gymwys am y grant ac eisiau gwneud cais , cwblhewch y ffurflen gais ar-lein neu lawrlwythwch y Ffurflen Gais a chwblhewch y cwestiynau gorfodol gan ddilyn canllawiau a ddarperir a'i dychwelyd mewn e-bost i grantnewyddbusnescovid@ceredigion.llyw.cymru.

Sicrhau i gynnwys y ffurflen gais, datganiad banc a ID cymeradwyo pan e-bost

Ffurfflen Gais

Ganllawiau'r Grant Cychwyn Busnes 

Bydd e-byst a’u hatodiadau yn ddiogel ac wedi eu gwarchod wedi iddynt gael eu derbyn gan y Cyngor; fodd bynnag mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fodloni eu hunain o ddiogelwch eu darparwr gwasanaeth e-bost.  I’ch diogelu, awgrymwn eich bod yn symud yr e-bost o’ch ‘eitemau wedi eu gyrru’ wedi i chi gael cadarnhad fod y cais wedi’ dderbyn).

Bydd y Grant i Fusnesau Newydd yn agor ar 29 Mehefin 2020 ac yn parhau nes bod yr holl gronfa wedi cael ei defnyddio. Mae’r gronfa yn darparu taliad sengl o £2,500 i fusnesau cymwys. Mae 2,000 o grantiau ar gael ledled Cymru gyda dyraniad i ardal pob awdurdod lleol. Bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno’n cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio.

Gwiriwch eich cais yn ofalus cyn ei gyflwyno i sicrhau ei fod yn gywir ac yn gyflawn - bydd ceisiadau anghyflawn neu wallus yn cael eu gwrthod.